Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 11

11
Cariad Duw at ei Bobl Wrthryfelgar
1“Pan oedd Israel yn fachgen fe'i cerais,
ac o'r Aifft y gelwais fy mab.
2Fel y galwn arnynt, aent ymaith oddi wrthyf#11:2 Felly Groeg. Hebraeg, Fel y galwent… oddi wrthynt.;
aberthent i Baal ac arogldarthu i eilunod.
3“Myfi a fu'n dysgu Effraim i gerdded,
a'u cymryd erbyn eu breichiau;
ond ni fynnent gydnabod i mi eu hiacháu.
4Tywysais hwy â rheffynnau caredig
ac â rhwymau cariad;
bûm iddynt fel un yn codi'r iau, yn llacio'r ffrwyn#11:4 Hebraeg yn ansicr.,
ac yn plygu atynt i'w porthi.
5“Ni ddychwelant i wlad yr Aifft,
ond Asyria fydd yn frenin arnynt,
am iddynt wrthod dychwelyd ataf.
6Chwyrlïa cleddyf yn erbyn eu dinasoedd,
a difa byst eu pyrth
a'u difetha am eu cynllwynion.
7Y mae fy mhobl yn mynnu cilio oddi wrthyf;
er iddynt alw ar dduw goruchel,
ni fydd yn eu dyrchafu o gwbl.
8“Pa fodd y'th roddaf i fyny, Effraim,
a'th roi ymaith, Israel?
Pa fodd y'th wnaf fel Adma,
a'th osod fel Seboim?
Newidiodd fy meddwl ynof;
enynnodd fy nhosturi hefyd.
9Ni chyflawnaf angerdd fy llid,
ni ddinistriaf Effraim eto;
canys Duw wyf fi, ac nid meidrolyn,
y Sanct yn dy ganol;
ac ni ddof i ddinistrio#11:9 Hebraeg, i'r ddinas..
10“Ânt ar ôl yr ARGLWYDD; fe rua fel llew.
Pan rua ef, daw ei blant dan grynu o'r gorllewin;
11dônt dan grynu fel aderyn o'r Aifft,
ac fel colomen o wlad Asyria,
a gosodaf hwy eto yn eu cartrefi,” medd yr ARGLWYDD.
12 # 11:12 Hebraeg, 12:1. Amgylchodd Effraim fi â chelwydd,
a thŷ Israel â thwyll;
ond y mae Jwda'n ymwneud â Duw,
ac yn ffyddlon i'r Sanct.

Dewis Presennol:

Hosea 11: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda