Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 7

7
1#7:1 Hebraeg, 6:11.Pan ddymunaf adfer llwyddiant fy mhobl ac iacháu Israel,
datguddir camwedd Effraim a drygioni Samaria,
oherwydd y maent yn ymddwyn yn ffals;
y mae lleidr yn torri i mewn, ysbeiliwr yn anrheithio ar y stryd.
2Nid ydynt yn ystyried fy mod yn cofio'u holl ddrygioni;
y mae eu gweithredoedd yn gylch o'u cwmpas,
y maent yn awr ger fy mron.
3Y maent yn llawenychu'r brenin â'u drygioni,
a'r tywysogion â'u celwyddau.
4Y mae pawb ohonynt yn odinebwyr fel ffwrn a daniwyd gan bobydd,
nad oes angen ei chyffwrdd o dyliniad y toes nes iddo godi.
5Ar ddydd gŵyl ein brenin clafychodd y tywysogion gan effaith gwin;
estynnodd yntau ei law gyda'r gwatwarwyr.
6Fel ffwrn y mae#7:6 Cymh. Groeg. Hebraeg, y dygasant yn agos. eu calon yn llosgi gan ddichell;
ar hyd y nos bydd eu dicter yn mud losgi;
yn y bore bydd yn cynnau fel fflamau tân.
7Y mae pawb ohonynt yn boeth fel ffwrn, ac ysant eu barnwyr;
syrthiodd eu holl frenhinoedd, ac ni eilw yr un ohonynt arnaf.”
Israel a'r Cenhedloedd
8“Y mae Effraim wedi ymgymysgu â'r cenhedloedd;
y mae Effraim fel teisen heb ei throi.
9Y mae estroniaid yn ysu ei nerth, ac yntau heb wybod;
lledodd penwynni drosto, ac yntau heb wybod.
10Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn;
eto ni ddychwelant at yr ARGLWYDD eu Duw,
ac ni cheisiant ef, er hyn i gyd.
11“Y mae Effraim fel colomen,
yn ffôl a diddeall;
galwant ar yr Aifft, ânt i Asyria.
12Fel yr ânt, lledaf fy rhwyd drostynt,
a'u dwyn i lawr fel adar yr awyr;
fe'u cosbaf fel rhybudd cyhoeddus.
13Gwae hwy am grwydro oddi wrthyf!
Distryw arnynt am wrthryfela yn f'erbyn!
Gwaredwn hwy, ond dywedant gelwydd amdanaf.
14“Ni lefant o ddifrif arnaf, ond dolefant ar eu gwelyau;
am ŷd a gwin fe'u hanafant eu hunain, gwrthryfelant yn f'erbyn.
15Er i mi eu dysgu a nerthu eu breichiau,
eto dyfeisiant ddrwg yn f'erbyn.
16Trônt yn ôl heb lwyddo#7:16 Hebraeg yn ansicr.; y maent fel bwa twyllodrus;
syrth eu penaethiaid â'r cleddyf oherwydd haerllugrwydd eu tafodau.
Dyma'u dirmyg yng ngwlad yr Aifft.”

Dewis Presennol:

Hosea 7: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda