Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 8

8
Condemnio Eilunaddoliaeth Israel
1“At dy wefus â'r utgorn!
Y mae un tebyg i eryr yn erbyn tŷ'r ARGLWYDD,
am iddynt dorri fy nghyfamod
a gwrthryfela yn erbyn fy nghyfraith.
2Llefant arnaf, ‘O Dduw, yr ydym ni, Israel, yn dy adnabod.’
3Ffieiddiodd Israel ddaioni;
bydd gelyn yn ei ymlid yntau.
4“Gwnaethant frenhinoedd, ond nid trwof fi;
gwnaethant dywysogion, nad oeddwn yn eu hadnabod.
Â'u harian a'u haur gwnaethant iddynt eu hunain ddelwau,
a hynny er distryw.
5Ffieiddiais#8:5 Hebraeg, Ffieiddiodd. dy lo, Samaria;
cyneuodd fy llid yn ei erbyn.
6Pa hyd y methant ymlanhau yn Israel?#8:6 Felly Groeg. Hebraeg yn ansicr.
Crefftwr a'i gwnaeth;
nid yw'n dduw.
Dryllir llo Samaria yn chwilfriw.
7“Canys y maent yn hau gwynt,
ac yn medi corwynt.
Y mae'r corsennau ŷd heb rawn,
ni rônt flawd;
pe rhoent, estroniaid a'i llyncai.
8Llyncwyd Israel;
y mae eisoes ymysg y cenhedloedd
fel llestr diwerth.
9Aethant i fyny at Asyria,
fel asyn gwyllt ar ddisberod.
Bargeiniodd Effraim am gariadon;
10er iddynt fargeinio ymysg y cenhedloedd,
fe'u casglaf yn awr,
wedi iddynt am ychydig wingo dan y baich, yn frenin a thywysogion.
11“Amlhaodd Effraim allorau;
ond aethant iddo yn allorau i bechu.
12Er i mi ysgrifennu llawer o ddeddfau,
fe'u hystyrir fel peth dieithr.
13Carant aberthau;#8:13 Tebygol. Hebraeg yn ansicr.
aberthant gig a'i fwyta;
ond nid yw'r ARGLWYDD yn fodlon arnynt.
Yn awr fe gofia eu drygioni,
a chosbi eu pechodau;
dychwelant i'r Aifft.
14Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr,
ac adeiladodd balasau;
lluosogodd Jwda ddinasoedd caerog;
ond anfonaf dân ar ei ddinasoedd
ac fe ysa ei amddiffynfeydd.”

Dewis Presennol:

Hosea 8: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda