Diarhebion Solomon fab Dafydd, brenin Israel— i gael doethineb ac addysg, i ddeall geiriau deallus, i dderbyn addysg fuddiol, cyfiawnder, barn, ac uniondeb, i roi craffter i'r gwirion, a gwybodaeth a synnwyr i'r ifanc. Y mae'r doeth yn gwrando ac yn cynyddu mewn dysg, a'r deallus yn ennill medrusrwydd, i ddeall dameg a'i dehongliad, dywediadau'r doeth a'u posau. Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth, ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth.
Darllen Diarhebion 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 1:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos