Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 77

77
I'r Cyfarwyddwr: ar Jeduthun. I Asaff. Salm.
1Gwaeddais yn uchel ar Dduw,
yn uchel ar Dduw, a chlywodd fi.
2Yn nydd fy nghyfyngder ceisiais yr Arglwydd,
ac yn y nos estyn fy nwylo'n ddiflino;
nid oedd cysuro ar fy enaid.
3Pan feddyliaf am Dduw, yr wyf yn cwyno;
pan fyfyriaf, fe balla f'ysbryd.
Sela
4Cedwaist fy llygaid rhag cau;
fe'm syfrdanwyd, ac ni allaf siarad.
5Af yn ôl i'r dyddiau gynt
a chofio#77:5 Felly Fersiynau. Hebraeg, a chofio yn yr adn. nesaf. am y blynyddoedd a fu;
6meddyliaf#77:6 Felly Fersiynau. Hebraeg, fy nghân. ynof fy hun yn y nos,
myfyriaf, a'm holi fy hunan,
7“A wrthyd yr Arglwydd am byth,
a pheidio â gwneud ffafr mwyach?
8A yw ei ffyddlondeb wedi darfod yn llwyr,
a'i addewid wedi ei hatal am genedlaethau?
9A yw Duw wedi anghofio trugarhau?
A yw yn ei lid wedi cloi ei dosturi?”
Sela
10Yna dywedais, “Hyn yw fy ngofid:
A yw deheulaw'r Goruchaf wedi pallu?”
11“Galwaf i gof weithredoedd yr ARGLWYDD,
a chofio am dy ryfeddodau gynt.
12Meddyliaf am dy holl waith,
a myfyriaf am dy weithredoedd.
13O Dduw, sanctaidd yw dy ffordd;
pa dduw sydd fawr fel ein Duw ni?
14Ti yw'r Duw sy'n gwneud pethau rhyfeddol;
dangosaist dy rym ymhlith y bobloedd.
15Â'th fraich gwaredaist dy bobl,
disgynyddion Jacob a Joseff.
Sela
16“Gwelodd y dyfroedd di, O Dduw,
gwelodd y dyfroedd di ac arswydo;
yn wir, yr oedd y dyfnder yn crynu.
17Tywalltodd y cymylau ddŵr,
ac yr oedd y ffurfafen yn taranu;
fflachiodd dy saethau ar bob llaw.
18Yr oedd sŵn dy daranau yn y corwynt,
goleuodd dy fellt y byd;
ysgydwodd y ddaear a chrynu.
19Aeth dy ffordd drwy'r môr,
a'th lwybr trwy ddyfroedd nerthol;
ond ni welwyd ôl dy gamau.
20Arweiniaist dy bobl fel praidd,
trwy law Moses ac Aaron.”

Dewis Presennol:

Y Salmau 77: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda