1 Corinthiaid 12:1-8
1 Corinthiaid 12:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ynglŷn â doniau ysbrydol, gyfeillion, nid wyf am ichwi fod yn anwybodus yn eu cylch. Fe wyddoch sut y byddech yn cael eich ysgubo i ffwrdd at eilunod mud, pan oeddech yn baganiaid. Am hynny, yr wyf yn eich hysbysu nad yw neb sydd yn llefaru trwy Ysbryd Duw yn dweud, “Melltith ar Iesu!” Ac ni all neb ddweud, “Iesu yw'r Arglwydd!” ond trwy yr Ysbryd Glân. Y mae amrywiaeth doniau, ond yr un Ysbryd sy'n eu rhoi; ac y mae amrywiaeth gweinidogaethau, ond yr un Arglwydd sy'n eu rhoi; ac y mae amrywiaeth gweithrediadau, ond yr un Duw sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb. Rhoddir amlygiad o'r Ysbryd i bob un, er lles pawb. Oherwydd fe roddir i un, trwy'r Ysbryd, lefaru doethineb; i un arall, lefaru gwybodaeth, yn ôl yr un Ysbryd
1 Corinthiaid 12:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Nawr, wrth droi at beth sy’n dod o’r Ysbryd, dw i am i chi ddeall ffrindiau. Pan oeddech chi’n baganiaid, roeddech yn cael eich dylanwadu a’ch camarwain gan eilun-dduwiau mud. Felly dw i am i chi wybod beth sy’n dod o Dduw a beth sydd ddim. Does neb sy’n siarad dan ddylanwad Ysbryd Glân Duw yn dweud, “Mae Iesu yn felltith!” A does neb yn gallu dweud, “Iesu ydy’r Arglwydd,” ond drwy’r Ysbryd Glân. Mae gwahanol ddoniau, ond yr un Ysbryd sy’n rhoi pob un. Mae ffyrdd gwahanol o wasanaethu, ond dim ond un Arglwydd sydd. Mae Duw yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol drwy wahanol bobl, ond yr un Duw sy’n cyflawni’r cwbl ynddyn nhw i gyd. Ac mae’r Ysbryd i’w weld yn gweithio ym mywyd pob unigolyn er lles pawb arall. Felly mae’r Ysbryd yn rhoi gair o ddoethineb i un person. Mae person arall yn cael gair o wybodaeth, drwy’r un Ysbryd.
1 Corinthiaid 12:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr am ysbrydol ddoniau, frodyr, ni fynnwn i chwi fod heb wybod. Chwi a wyddoch mai Cenhedloedd oeddech, yn eich arwain ymaith at yr eilunod mudion, fel y’ch tywysid. Am hynny yr wyf yn hysbysu i chwi, nad oes neb yn llefaru trwy Ysbryd Duw, yn galw yr Iesu yn ysgymunbeth: ac ni all neb ddywedyd yr Arglwydd Iesu, eithr trwy’r Ysbryd Glân. Ac y mae amryw ddoniau, eithr yr un Ysbryd. Ac y mae amryw weinidogaethau, eithr yr un Arglwydd. Ac y mae amryw weithrediadau, ond yr un yw Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb: Eithr eglurhad yr Ysbryd a roddir i bob un er llesâd. Canys i un, trwy’r Ysbryd, y rhoddir ymadrodd doethineb; ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, trwy’r un Ysbryd