1 Ioan 3:11-18
1 Ioan 3:11-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r neges dych chi wedi’i chlywed o’r dechrau cyntaf: Fod yn rhaid i ni garu’n gilydd. Rhaid i ni beidio bod fel Cain, oedd yn perthyn i’r un drwg ac a laddodd ei frawd. A pham wnaeth e ladd ei frawd? Am fod Cain wedi gwneud drwg, a’i frawd wedi gwneud y peth iawn. Felly, frodyr a chwiorydd, peidiwch synnu os ydy’r byd yn eich casáu chi! Dŷn ni’n caru’n gilydd, ac felly’n gwybod ein bod ni wedi symud o fod yn farw’n ysbrydol i fod yn fyw’n ysbrydol. Mae unrhyw un sydd ddim yn dangos cariad felly yn dal yn farw’n ysbrydol. Mae unrhyw un sy’n casáu brawd neu chwaer yn llofrudd, a does gan lofrudd ddim bywyd tragwyddol. Dyma sut dŷn ni’n gwybod beth ydy cariad go iawn: Rhoddodd Iesu, y Meseia, ei fywyd yn aberth droson ni. Felly dylen ni aberthu’n hunain dros ein cyd-Gristnogion. Os oes gan rywun ddigon o arian ac eiddo, ac yn gweld fod brawd neu chwaer mewn angen, ac eto’n dewis gwneud dim byd i’w helpu nhw, sut allwch chi ddweud fod cariad Duw yn rhywun felly? Blant annwyl, peidiwch dim ond siarad am gariad, gwnewch rywbeth i ddangos eich cariad!
1 Ioan 3:11-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd hon yw'r genadwri a glywsoch chwi o'r dechrau: ein bod i garu ein gilydd. Nid fel Cain, a oedd o'r Un drwg ac a laddodd ei frawd. A pham y lladdodd ef? Oherwydd fod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a gweithredoedd ei frawd yn gyfiawn. Peidiwch â synnu, gyfeillion, os yw'r byd yn eich casáu chwi. Yr ydym ni'n gwybod ein bod wedi croesi o farwolaeth i fywyd, am ein bod yn caru ein cydaelodau; y mae'r sawl nad yw'n caru yn aros mewn marwolaeth. Llofrudd yw pob un sy'n casáu ei gydaelod, ac yr ydych yn gwybod nad oes gan unrhyw lofrudd fywyd tragwyddol yn aros ynddo. Dyma sut yr ydym yn gwybod beth yw cariad: am iddo ef roi ei einioes drosom ni. Ac fe ddylem ninnau roi ein heinioes dros ein cydaelodau. Pwy bynnag sydd â meddiannau'r byd ganddo, ac yn gweld ei gydaelod mewn angen, ac eto'n cau ei galon yn ei erbyn, sut y mae cariad Duw yn aros ynddo? Fy mhlant, gadewch inni garu, nid ar air nac ar dafod ond mewn gweithred a gwirionedd.
1 Ioan 3:11-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid hon yw’r genadwri a glywsoch o’r dechreuad; bod i ni garu ein gilydd. Nid fel Cain, yr hwn oedd o’r drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oblegid bod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a’r eiddo ei frawd yn dda. Na ryfeddwch, fy mrodyr, os yw’r byd yn eich casáu chwi. Nyni a wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn caru’r brodyr. Yr hwn nid yw yn caru ei frawd, y mae yn aros ym marwolaeth. Pob un a’r sydd yn casáu ei frawd, lleiddiad dyn yw: a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo. Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr. Eithr yr hwn sydd ganddo dda’r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef? Fy mhlant bychain, na charwn ar air nac ar dafod yn unig, eithr mewn gweithred a gwirionedd.