1 Ioan 5:14-15
1 Ioan 5:14-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A hwn yw'r hyder sydd gennym ger ei fron ef: y bydd ef yn gwrando arnom os gofynnwn am rywbeth yn unol â'i ewyllys ef. Ac os ydym yn gwybod ei fod yn gwrando arnom, beth bynnag y byddwn yn gofyn amdano, yr ydym yn gwybod bod y pethau yr ydym wedi gofyn iddo amdanynt yn eiddo inni.
1 Ioan 5:14-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma pa mor hyderus gallwn ni fod wrth agosáu at Dduw: mae e’n gwrando arnon ni os byddwn ni’n gofyn am unrhyw beth sy’n gyson â’i fwriad e. Ac os ydyn ni’n gwybod ei fod e’n gwrando arnon ni, dŷn ni’n gallu bod yn siŵr y byddwn yn derbyn beth bynnag byddwn ni’n gofyn amdano.
1 Ioan 5:14-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hyn yw’r hyfder sydd gennym tuag ato ef; ei fod ef yn ein gwrando ni, os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef. Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni, pa beth bynnag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo.