1 Brenhinoedd 14:8
1 Brenhinoedd 14:8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
a rhwygais y deyrnas oddi ar linach Dafydd a'i rhoi i ti. Ond ni fuost fel fy ngwas Dafydd, yn cadw fy ngorchmynion ac yn fy nghanlyn â'i holl galon, i wneud yn unig yr hyn oedd yn uniawn yn fy ngolwg.
Rhanna
Darllen 1 Brenhinoedd 141 Brenhinoedd 14:8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i wedi cymryd y deyrnas oddi ar deulu Dafydd a’i rhoi i ti. Ond yn wahanol i’m gwas Dafydd, ti ddim wedi cadw fy ngorchmynion na’m dilyn i o ddifri, a gwneud beth sy’n iawn gen i.
Rhanna
Darllen 1 Brenhinoedd 141 Brenhinoedd 14:8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A thorri ymaith y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Dafydd, a’i rhoddi i ti; ac na buost ti fel fy ngwas Dafydd, yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion, a’r hwn a rodiodd ar fy ôl i â’i holl galon, i wneuthur yn unig yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i
Rhanna
Darllen 1 Brenhinoedd 14