1 Brenhinoedd 19:12-13
1 Brenhinoedd 19:12-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ôl y tân, distawrwydd llethol. Pan glywodd Elias, lapiodd ei wyneb yn ei fantell a mynd i sefyll yng ngenau'r ogof; a daeth llais yn gofyn iddo, “Beth a wnei di yma, Elias?”
Rhanna
Darllen 1 Brenhinoedd 191 Brenhinoedd 19:12-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wedyn ar ôl y daeargryn daeth tân; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y tân. Wedyn ar ôl tân roedd yna ddistawrwydd llwyr. Pan glywodd Elias hyn, dyma fe’n lapio’i glogyn dros ei wyneb a mynd i sefyll wrth geg yr ogof. A dyma lais yn gofyn iddo, “Be wyt ti’n wneud yma Elias?”
Rhanna
Darllen 1 Brenhinoedd 191 Brenhinoedd 19:12-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ar ôl y ddaeargryn, tân; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y tân: ac ar ôl y tân, llef ddistaw fain. A phan glybu Eleias, efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, ac a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws yr ogof. Ac wele lef yn dyfod ato, yr hon a ddywedodd, Beth a wnei di yma, Eleias?
Rhanna
Darllen 1 Brenhinoedd 19