1 Brenhinoedd 2:2-4
1 Brenhinoedd 2:2-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Fydda i ddim byw yn hir iawn eto,” meddai. “Rhaid i ti fod yn gryf a dangos dy fod yn ddyn! Gwna beth mae’r ARGLWYDD dy Dduw yn ei ofyn gen ti, a byw fel mae e eisiau. Rhaid i ti gadw’i reolau, ei orchmynion, y canllawiau a’r gofynion i gyd sydd yng Nghyfraith Moses. Fel yna byddi di’n llwyddo beth bynnag wnei di a beth bynnag fydd rhaid i ti ei wynebu. A bydd yr ARGLWYDD wedi cadw ei addewid i mi: ‘Os bydd dy ddisgynyddion di yn gwylio’u ffyrdd ac yn gwneud eu gorau glas i fyw’n ffyddlon i mi, yna bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth.’
1 Brenhinoedd 2:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Yr wyf fi ar fynd i ffordd yr holl ddaear; am hynny ymnertha, a bydd yn ddyn. Cadw ofynion yr ARGLWYDD dy Dduw, gan rodio yn ei ffyrdd, ac ufuddhau i'w ddeddfau, ei orchmynion, ei farnedigaethau a'i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd hwy yng nghyfraith Moses. Yna fe lwyddi ym mhob peth a wnei ym mhle bynnag y byddi'n troi; ac fe gyflawna'r ARGLWYDD ei air, a addawodd wrthyf pan ddywedodd, ‘Os gwylia dy ddisgynyddion eu ffordd, a rhodio ger fy mron mewn gwirionedd, â'u holl galon ac â'u holl enaid, yna ni thorrir ymaith ŵr o'th dylwyth oddi ar orsedd Israel.’
1 Brenhinoedd 2:2-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Myfi wyf yn myned ffordd yr holl ddaear; am hynny ymnertha, a bydd ŵr; A chadw gadwraeth yr ARGLWYDD dy DDUW, i rodio yn ei ffyrdd ef, i gadw ei ddeddfau ef, a’i orchmynion, a’i farnedigaethau, a’i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses; fel y llwyddych yn yr hyn oll a wnelych, ac i ba le bynnag y tröech: Fel y cyflawno yr ARGLWYDD ei air a lefarodd efe wrthyf, gan ddywedyd, Os dy feibion a gadwant eu ffyrdd, i rodio ger fy mron mewn gwirionedd, â’u holl galon, ac â’u holl enaid, ni thorrir (eb efe) na byddo ohonot ŵr ar orseddfainc Israel.