1 Samuel 14:1-23
1 Samuel 14:1-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Un diwrnod, heb yngan gair wrth ei dad, dywedodd Jonathan fab Saul wrth y gwas oedd yn cludo'i arfau, “Tyrd, awn drosodd at wylwyr y Philistiaid sydd acw gyferbyn â ni.” Yr oedd Saul yn aros yng nghwr Gibea, dan y pren pomgranad sydd yn Migron, a thua chwe chant o bobl gydag ef; Ahia, mab Ahitub brawd Ichabod, fab Phinees, fab Eli, offeiriad yr ARGLWYDD yn Seilo, oedd yn cario'r effod. Ni wyddai'r bobl fod Jonathan wedi mynd. Yn y bwlch lle'r oedd Jonathan yn ceisio croesi tuag at wylwyr y Philistiaid yr oedd clogwyn o graig ar y naill ochr a'r llall; Boses oedd enw'r naill a Senne oedd enw'r llall. Yr oedd un clogwyn yn taflu allan i'r gogledd ar ochr Michmas, a'r llall i'r de ar ochr Geba. Dywedodd Jonathan wrth y gwas oedd yn cludo'i arfau, “Tyrd, awn drosodd at y gwylwyr dienwaededig acw; efallai y bydd yr ARGLWYDD yn gweithio o'n plaid, oherwydd nid oes dim i rwystro'r ARGLWYDD rhag gwaredu trwy lawer neu drwy ychydig.” Dywedodd cludydd ei arfau wrtho, “Gwna beth bynnag sydd yn dy fryd; dygna arni; rwyf gyda thi, galon wrth galon.” Dywedodd Jonathan, “Edrych yma, fe awn drosodd at y dynion a'n dangos ein hunain iddynt. Os dywedant wrthym, ‘Arhoswch lle'r ydych nes y byddwn wedi dod atoch’, fe arhoswn lle byddwn heb fynd atynt. Ond os dywedant, ‘Dewch i fyny atom’, yna awn i fyny, oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn eu rhoi yn ein llaw; a bydd hyn yn arwydd inni.” Dangosodd y ddau ohonynt eu hunain i wylwyr y Philistiaid, a dywedodd y Philistiaid, “Dyma Hebreaid yn dod allan o'r tyllau lle buont yn cuddio.” A gwaeddodd dynion yr wyliadwriaeth ar Jonathan a'i gludydd arfau, a dweud, “Dewch i fyny atom, i ni gael dangos rhywbeth i chwi.” Dywedodd Jonathan wrth ei gludydd arfau, “Tyrd i fyny ar f'ôl i, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi yn llaw Israel.” Dringodd Jonathan i fyny ar ei ddwylo a'i draed, gyda'i gludydd arfau ar ei ôl. Cwympodd y gwylwyr o flaen Jonathan, a daeth ei gludydd arfau ar ei ôl i'w dienyddio. Y tro cyntaf hwn, lladdodd Jonathan a'i gludydd arfau tuag ugain o ddynion o fewn tua hanner cwys cae. Cododd braw drwy'r gwersyll a'r maes, a brawychwyd holl bobl yr wyliadwriaeth, a'r rheibwyr hefyd, nes bod y wlad yn crynu gan arswyd. Yna gwelodd ysbiwyr Saul oedd yn Gibea Benjamin fod y gwersyll yn rhuthro yma ac acw mewn anhrefn. Dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef, “Galwch y rhestr i weld pwy sydd wedi mynd o'n plith.” Galwyd y rhestr, a chael nad oedd Jonathan na'i gludydd arfau yno. Yna dywedodd Saul wrth Ahia, “Tyrd â'r effod.” Oherwydd yr adeg honno ef oedd yn cludo'r effod o flaen Israel. Tra oedd Saul yn siarad â'r offeiriad, cynyddodd yr anhrefn fwyfwy yng ngwersyll y Philistiaid, a dywedodd Saul wrth yr offeiriad, “Atal dy law.” Galwodd Saul yr holl bobl oedd gydag ef, ac aethant i'r frwydr; yno yr oedd pob un â'i gleddyf yn erbyn ei gyfaill, mewn anhrefn llwyr. A dyma'r Hebreaid oedd gynt ar ochr y Philistiaid, ac wedi dod i fyny i'r gwersyll gyda hwy, yn troi ac yn ochri gyda'r Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan. A phan glywodd yr Israeliaid oedd yn llechu yn ucheldir Effraim fod y Philistiaid ar ffo, dyna hwythau hefyd yn ymuno i'w hymlid. Y dydd hwnnw gwaredodd yr ARGLWYDD Israel, ac ymledodd y frwydr tu hwnt i Beth-afen.
1 Samuel 14:1-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Un diwrnod dyma Jonathan, mab Saul, yn dweud wrth y gwas oedd yn cario’i arfau, “Tyrd, gad i ni groesi drosodd i wersyll y Philistiaid.” Ond ddwedodd e ddim am y peth wrth ei dad. Roedd Saul yn eistedd o dan y goeden pomgranadau sydd wrth ymyl Migron ar gyrion Gibea, a tua chwe chant o ddynion gydag e. Achïa oedd yn cario’r effod. (Roedd Achïa yn fab i Achitwf, brawd Ichabod a mab Phineas fab Eli oedd yn arfer bod yn offeiriad yn Seilo.) Doedd neb o’r fyddin yn gwybod fod Jonathan wedi mynd. Roedd clogwyni uchel bob ochr i’r bwlch roedd Jonathan eisiau ei groesi i fynd at wersyll y Philistiaid. Enwau’r clogwyni oedd Botsets a Senne. Roedd un i’r gogledd ar ochr Michmas, a’r llall i’r de ar ochr Geba. Dyma Jonathan yn dweud wrth y gwas oedd yn cario’i arfau, “Tyrd, gad i ni fynd draw i wersyll y paganiaid acw. Falle bydd yr ARGLWYDD yn ein helpu ni. Mae’r un mor hawdd iddo fe achub hefo criw bach ag ydy hi gyda byddin fawr.” A dyma’i was yn ateb, “Gwna beth bynnag wyt ti eisiau. Dos amdani. Dw i gyda ti bob cam.” Meddai Jonathan, “Dyma be wnawn ni. Awn ni drosodd at y dynion a gadael iddyn nhw ein gweld ni. Os dwedan nhw ‘Arhoswch yna nes i ni ddod atoch chi,’ gwnawn ni aros lle rydyn ni. Ond os dwedan nhw, ‘Dewch i fyny yma,’ awn ni atyn nhw. Bydd hynny’n arwydd fod yr ARGLWYDD yn eu rhoi nhw’n ein gafael ni.” Felly dyma’r ddau’n mynd, a dangos eu hunain i fyddin y Philistiaid. A dyma’r rheiny yn dweud, “Edrychwch! Mae’r Hebreaid yn dod allan o’r tyllau lle maen nhw wedi bod yn cuddio!” Gwaeddodd y milwyr ar Jonathan a’i gludwr arfau, “Dewch i fyny yma i ni ddysgu gwers i chi!” A dyma Jonathan yn dweud wrth ei was, “Dilyn fi, achos mae’r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i Israel.” Yna dringodd Jonathan i fyny ar ei bedwar, a’r gwas oedd yn cario’i arfau ar ei ôl. Dyma Jonathan yn taro gwylwyr y Philistiaid i lawr, ac yna roedd ei was yn ei ddilyn ac yn eu lladd nhw. Yn yr ymosodiad cyntaf yma, lladdodd Jonathan a’i was tua dau ddeg o ddynion mewn llai na chan llath. Yna roedd yna ddaeargryn, a dyma banig llwyr yn dod dros fyddin y Philistiaid. Roedden nhw’n panicio yn y gwersyll ac allan ar y maes – y fintai i gyd a’r grwpiau oedd wedi mynd allan i ymosod ar Israel. Duw oedd wedi achosi’r panig yma. Roedd gan Saul wylwyr yn Gibea yn Benjamin, a dyma nhw’n gweld milwyr y Philistiaid yn dyrfa yn diflannu i bob cyfeiriad. Dyma Saul yn gorchymyn galw’i filwyr at ei gilydd i weld pwy oedd ar goll, a dyma nhw’n ffeindio fod Jonathan a’r gwas oedd yn cario’i arfau ddim yno. Yna dyma Saul yn dweud wrth Achïa’r offeiriad, “Tyrd â’r Arch yma.” (Roedd Arch Duw allan gyda byddin Israel ar y pryd.) Ond tra oedd Saul yn siarad â’r offeiriad, roedd y panig yng ngwersyll y Philistiaid yn mynd o ddrwg i waeth. Felly dyma Saul yn dweud wrtho, “Anghofia hi.” A dyma Saul yn galw’i fyddin at ei gilydd a mynd allan i’r frwydr. Roedd byddin y Philistiaid mewn anhrefn llwyr. Dyna lle roedden nhw’n lladd ei gilydd! Roedd yna Hebreaid oedd wedi ymuno â byddin y Philistiaid cyn hyn, a dyma nhw’n troi i ymladd ar ochr yr Israeliaid gyda Saul a Jonathan. Wedyn, pan glywodd yr Israeliaid oedd wedi bod yn cuddio ym mryniau Effraim fod y Philistiaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn mynd ar eu holau. Roedd y brwydro wedi lledu tu draw i Beth-afen. Felly yr ARGLWYDD wnaeth achub Israel y diwrnod hwnnw.
1 Samuel 14:1-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu ddyddgwaith i Jonathan mab Saul ddywedyd wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r Philistiaid, yr hon sydd o’r tu hwnt: ond ni fynegodd efe i’w dad. A Saul a arhosodd yng nghwr Gibea, dan bren pomgranad, yr hwn oedd ym Migron: a’r bobl oedd gydag ef oedd ynghylch chwe channwr; Ac Ahia mab Ahitub, brawd Ichabod, mab Phinees, mab Eli, offeiriad yr ARGLWYDD yn Seilo, oedd yn gwisgo effod. Ac ni wyddai y bobl i Jonathan fyned ymaith. A rhwng y bylchau, lle ceisiodd Jonathan fyned drosodd at amddiffynfa’r Philistiaid, yr oedd craig serth o’r naill du i’r bwlch, a chraig serth o’r tu arall i’r bwlch; ac enw y naill oedd Boses, ac enw y llall Sene. A safiad y naill oedd oddi wrth y gogledd ar gyfer Michmas, a’r llall oddi wrth y deau ar gyfer Gibea. A dywedodd Jonathan wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r rhai dienwaededig hyn; nid hwyrach y gweithia yr ARGLWYDD gyda ni: canys nid oes rwystr i’r ARGLWYDD waredu trwy lawer neu trwy ychydig. A’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ef a ddywedodd wrtho, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon: cerdda rhagot; wele fi gyda thi fel y mynno dy galon. Yna y dywedodd Jonathan, Wele, ni a awn trosodd at y gwŷr hyn, ac a ymddangoswn iddynt. Os dywedant fel hyn wrthym, Arhoswch nes i ni ddyfod atoch chwi; yna y safwn yn ein lle, ac nid awn i fyny atynt hwy. Ond os fel hyn y dywedant, Deuwch i fyny atom ni; yna yr awn i fyny: canys yr ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn ein llaw ni; a hyn fydd yn argoel i ni. A hwy a ymddangosasant ill dau i amddiffynfa’r Philistiaid. A’r Philistiaid a ddywedasant, Wele yr Hebreaid yn dyfod allan o’r tyllau y llechasant ynddynt. A gwŷr yr amddiffynfa a atebasant Jonathan, a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, ac a ddywedasant, Deuwch i fyny atom ni, ac ni a ddangoswn beth i chwi. A dywedodd Jonathan wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau, Tyred i fyny ar fy ôl: canys yr ARGLWYDD a’u rhoddes hwynt yn llaw Israel. A Jonathan a ddringodd i fyny ar ei ddwylo, ac ar ei draed; a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ar ei ôl. A hwy a syrthiasant o flaen Jonathan: ei yswain hefyd oedd yn lladd ar ei ôl ef. A’r lladdfa gyntaf honno a wnaeth Jonathan a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, oedd ynghylch ugeinwr, megis o fewn ynghylch hanner cyfer dau ych o dir. A bu fraw yn y gwersyll, yn y maes, ac ymysg yr holl bobl: yr amddiffynfa a’r anrheithwyr hwythau hefyd a ddychrynasant: y ddaear hefyd a grynodd; a bu dychryn DUW. A gwylwyr Saul yn Gibea Benjamin a edrychasant; ac wele y lliaws yn ymwasgaru, ac yn myned dan ymguro. Yna y dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef, Cyfrifwch yn awr, ac edrychwch pwy a aeth oddi wrthym ni. A phan gyfrifasant, wele, Jonathan a chludydd ei arfau nid oeddynt yno. A Saul a ddywedodd wrth Ahia, Dwg yma arch DUW. (Canys yr oedd arch DUW y pryd hynny gyda meibion Israel.) A thra yr ydoedd Saul yn ymddiddan â’r offeiriad, y terfysg, yr hwn oedd yng ngwersyll y Philistiaid, gan fyned a aeth, ac a anghwanegodd. A Saul a ddywedodd wrth yr offeiriad, Tyn atat dy law. A Saul a’r holl bobl oedd gydag ef a ymgynullasant, ac a ddaethant i’r rhyfel: ac wele gleddyf pob un yn erbyn ei gyfnesaf; a dinistr mawr iawn oedd yno. Yr Hebreaid hefyd, y rhai oedd gyda’r Philistiaid o’r blaen, y rhai a aethant i fyny gyda hwynt i’r gwersyll o’r wlad oddi amgylch, hwythau hefyd a droesant i fod gyda’r Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan. A holl wŷr Israel, y rhai oedd yn llechu ym mynydd Effraim, a glywsant ffoi o’r Philistiaid; hwythau hefyd a’u herlidiasant hwy o’u hôl yn y rhyfel. Felly yr achubodd yr ARGLWYDD Israel y dydd hwnnw; a’r ymladd a aeth drosodd i Beth-afen.