Colosiaid 3:12-15
Colosiaid 3:12-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae Duw wedi’ch dewis chi iddo’i hun ac wedi’ch caru chi’n fawr, felly dangoswch chithau dosturi at bobl eraill, a bod yn garedig, yn ostyngedig, yn addfwyn ac yn amyneddgar. Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi’n meddwl eu bod nhw ar fai. Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae’r Arglwydd wedi maddau i chi. A gwisgwch gariad dros y cwbl i gyd – mae cariad yn clymu’r cwbl yn berffaith gyda’i gilydd. Gadewch i’r heddwch mae’r Meseia’n ei greu rhyngoch chi gadw trefn arnoch chi. Mae Duw wedi’ch galw chi at eich gilydd i fyw fel un corff ac i brofi realiti’r heddwch hwnnw. A byddwch yn ddiolchgar.
Colosiaid 3:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch amdanoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd. Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gŵyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau. Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd. Bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau; i hyn y cawsoch eich galw, yn un corff. A byddwch yn ddiolchgar.
Colosiaid 3:12-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny, (megis etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl,) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros; Gan gyd-ddwyn â’ch gilydd, a maddau i’ch gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau. Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd. A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i’r hwn hefyd y’ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar.