Deuteronomium 6:1-2
Deuteronomium 6:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma'r gorchmynion, y deddfau a'r cyfreithiau y gorchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw eu dysgu ichwi i'w cadw yn y wlad yr ydych yn mynd iddi i'w meddiannu, er mwyn i chwi ofni'r ARGLWYDD eich Duw a chadw yr holl ddeddfau a gorchmynion yr wyf yn eu rhoi i chwi a'ch plant a phlant eich plant holl ddyddiau eich bywyd, ac er mwyn estyn eich dyddiau.
Deuteronomium 6:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Dyma’r gorchmynion, y rheolau a’r canllawiau roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i mi i’w dysgu i chi, er mwyn i chi eu cadw nhw yn y wlad lle dych chi’n mynd. Byddwch chi’n dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw drwy gadw’i reolau a’i orchmynion – chi, eich plant, a’ch wyrion a’ch wyresau. Cadwch nhw tra byddwch chi byw, a chewch fyw yn hir.
Deuteronomium 6:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dyma ’r gorchmynion, y deddfau, a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD eich DUW eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu: Fel yr ofnech yr ARGLWYDD dy DDUW, gan gadw ei holl ddeddfau, a’i orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a’th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estynner dy ddyddiau.