Hebreaid 10:3-12
Hebreaid 10:3-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond y mae yn yr aberthau goffâd bob blwyddyn am bechodau; oherwydd y mae'n amhosibl i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau. Dyna pam y mae ef, wrth ddod i'r byd, yn dweud: “Ni ddymunaist aberth ac offrwm, ond paratoaist gorff i mi. Poethoffrymau ac aberth dros bechod, nid ymhyfrydaist ynddynt. Yna dywedais, ‘Dyma fi wedi dod— y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf— i wneud dy ewyllys di, O Dduw.’ ” Y mae'n dweud, i ddechrau, “Aberthau ac offrymau, a phoethoffrymau ac aberth dros bechod, ni ddymunaist mohonynt ac nid ymhyfrydaist ynddynt.” Dyma'r union bethau a offrymir yn ôl y Gyfraith. Yna dywedodd, “Dyma fi wedi dod i wneud dy ewyllys di.” Y mae'n diddymu'r peth cyntaf er mwyn sefydlu'r ail. Yn unol â'r ewyllys honno yr ydym wedi ein sancteiddio, trwy gorff Iesu Grist sydd wedi ei offrymu un waith am byth. Y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gweini, ac yn offrymu'r un aberthau dro ar ôl tro, aberthau na allant byth ddileu pechodau. Ond am hwn, wedi iddo offrymu un aberth dros bechodau am byth, eisteddodd ar ddeheulaw Duw
Hebreaid 10:3-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond na, beth roedd yr aberthau’n ei wneud oedd atgoffa’r bobl o’u pechod bob blwyddyn. Mae’n amhosib i waed teirw a geifr gael gwared â phechod. Felly pan ddaeth y Meseia i’r byd, dwedodd: “Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau, ond rwyt wedi rhoi corff i mi. Doedd offrymau llosg ac offrymau dros bechod ddim yn dy blesio di. Felly dyma fi’n dweud, ‘O Dduw, dw i wedi dod i wneud beth rwyt ti eisiau – fel mae wedi’i ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.’” Mae’r Meseia yn dweud, “Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau” a “Doedd offrymau llosg ac offrymau dros bechod ddim yn dy blesio di.” (Y Gyfraith Iddewig sy’n dweud fod rhaid gwneud hyn i gyd.) Wedyn mae’r Meseia’n dweud, “dw i wedi dod i wneud beth rwyt ti eisiau.” Felly mae’n cael gwared â’r drefn gyntaf i wneud lle i’r ail. A beth mae Duw eisiau ydy i ni gael ein glanhau o’n pechod am fod Iesu y Meseia wedi’i aberthu ei hun un waith ac am byth. Dan yr hen drefn mae’r offeiriad yn sefyll o flaen yr allor yn gwneud yr un gwaith ddydd ar ôl dydd. Mae e’n offrymu yr un aberthau drosodd a throsodd, ond allan nhw byth gael gwared â phechod! Ond dyma’r Meseia, ein hoffeiriad ni, yn offrymu ei hun yn aberth dros bechod un waith ac am byth, ac yna’n eistedd i lawr yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw.
Hebreaid 10:3-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr yn yr aberthau hynny y mae atgoffa pechodau bob blwyddyn. Canys amhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau. Oherwydd paham y mae efe, wrth ddyfod i’r byd, yn dywedyd, Aberth ac offrwm nis mynnaist, eithr corff a gymhwysaist i mi: Offrymau poeth, a thros bechod, ni buost fodlon iddynt. Yna y dywedais, Wele fi yn dyfod, (y mae yn ysgrifenedig yn nechrau y llyfr amdanaf,) i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. Wedi iddo ddywedyd uchod, Aberth ac offrwm, ac offrymau poeth, a thros bechod, nis mynnaist, ac nid ymfodlonaist ynddynt; y rhai yn ôl y gyfraith a offrymir; Yna y dywedodd, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. Y mae yn tynnu ymaith y cyntaf, fel y gosodai yr ail. Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio, trwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith. Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechodau: Eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw