Eseia 41:19-20
Eseia 41:19-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Plannaf yn yr anialwch gedrwydd, acasia, myrtwydd ac olewydd; gosodaf ynghyd yn y diffeithwch ffynidwydd, ffawydd a phren bocs. Felly cânt weld a gwybod, ystyried ac amgyffred mai llaw'r ARGLWYDD a wnaeth hyn, ac mai Sanct Israel a'i creodd.”
Eseia 41:19-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydda i’n plannu coed cedrwydd yno, coed acasia, myrtwydd, ac olewydd; bydda i’n gosod coed cypres, coed llwyfen a choed pinwydd hefyd – er mwyn i bobl weld a gwybod, ystyried a sylweddoli mai’r ARGLWYDD sydd wedi gwneud hyn, ac mai Un Sanctaidd Israel sydd wedi peri iddo ddigwydd.
Eseia 41:19-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gosodaf yn yr anialwch y cedrwydd, sita, myrtwydd, ac olewydd; gosodaf yn y diffeithwch ffynidwydd, ffawydd, a’r pren bocs ynghyd; Fel y gwelont, ac y gwybyddont, ac yr ystyriont, ac y deallont ynghyd, mai llaw yr ARGLWYDD a wnaeth hyn, a Sanct Israel a’i creodd.