Eseia 42:6-7
Eseia 42:6-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Myfi yw'r ARGLWYDD; gelwais di mewn cyfiawnder, a gafael yn dy law; lluniais di a'th osod yn gyfamod pobl, yn oleuni cenhedloedd; i agor llygaid y deillion, i arwain caethion allan o'r carchar, a'r rhai sy'n byw mewn tywyllwch o'u cell.
Eseia 42:6-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Fi ydy’r ARGLWYDD, dw i wedi dy alw i wneud beth sy’n iawn, a gafael yn dy law. Dw i’n gofalu amdanat ti, ac yn dy benodi’n ganolwr fy ymrwymiad i bobl, ac yn olau i genhedloedd – i agor llygaid y dall, rhyddhau carcharorion o’u celloedd, a’r rhai sy’n byw yn y tywyllwch o’r carchar.
Eseia 42:6-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Myfi yr ARGLWYDD a’th elwais mewn cyfiawnder, ac ymaflaf yn dy law, cadwaf di hefyd, a rhoddaf di yn gyfamod pobl, ac yn oleuni Cenhedloedd; I agoryd llygaid y deillion, i ddwyn allan y carcharor o’r carchar, a’r rhai a eisteddant mewn tywyllwch o’r carchardy.