Luc 18:7-8
Luc 18:7-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dych chi’n gwybod beth ddwedodd y barnwr drwg. Felly beth am Dduw? Dych chi ddim yn meddwl y bydd e’n amddiffyn y bobl mae wedi’u dewis iddo’i hun? Fydd e ddim yn oedi! Bydd yn ymateb ar unwaith i’r rhai sy’n galw arno ddydd a nos! Dw i’n dweud wrthoch chi, bydd yn rhoi dedfryd gyfiawn iddyn nhw, a hynny ar frys! Ond, pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl, faint o bobl fydd yn dal i gredu bryd hynny?”
Rhanna
Darllen Luc 18Luc 18:7-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A fydd Duw yn gwrthod cyfiawnder i'w etholedigion, sy'n galw'n daer arno ddydd a nos? A fydd ef yn oedi yn eu hachos hwy? Rwy'n dweud wrthych y rhydd ef gyfiawnder iddynt yn ebrwydd. Ond eto, pan ddaw Mab y Dyn, a gaiff ef ffydd ar y ddaear?”
Rhanna
Darllen Luc 18