Luc 20:46-47
Luc 20:46-47 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Gwyliwch yr arbenigwyr yn y Gyfraith. Maen nhw wrth eu bodd yn cerdded o gwmpas yn swancio yn eu gwisgoedd swyddogol, ac yn hoffi cael pawb yn eu cyfarch ac yn talu sylw iddyn nhw yn sgwâr y farchnad. Mae’n rhaid iddyn nhw gael y seddi gorau yn y synagogau, ac eistedd ar y bwrdd uchaf mewn gwleddoedd. Maen nhw’n dwyn popeth oddi ar wragedd gweddwon ac wedyn yn ceisio rhoi’r argraff eu bod nhw’n dduwiol gyda’u gweddïau hir! Bydd pobl fel nhw yn cael eu cosbi’n llym.”
Luc 20:46-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Gochelwch rhag yr ysgrifenyddion sy'n hoffi rhodianna mewn gwisgoedd llaes, sy'n caru cael cyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r seddau anrhydedd mewn gwleddoedd, ac sy'n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhagrith yn gweddïo'n faith; fe dderbyn y rhain drymach dedfryd.”
Luc 20:46-47 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd yn y gwleddoedd; Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farn fwy.