12
A.D. 33. —
1 Yr Iesu yn esgusodi Mair am eneinio ei draed ef. 9 Y bobl yn ymgasglu i weled Lasarus: 10 a’r archoffeiriaid yn ymgynghori i’w ladd ef. 12 Crist yn marchogaeth i Jerwsalem. 20 Groegwyr yn ewyllysio gweled yr Iesu. 23 Y mae efe yn rhagfynegi ei farwolaeth. 37 Yr Iddewon gan mwyaf wedi eu dallu: 42 er hynny llawer o benaethiaid yn credu, ond heb ei gyffesu ef: 44 yr Iesu gan hynny yn galw yn daer am gyffesu ffydd.
1Yna yr Iesu, chwe diwrnod cyn y pasg, a ddaeth i Fethania, lle yr oedd Lasarus, yr hwn a fuasai farw, yr hwn a godasai efe o feirw. 2Ac #Mat 26:6; Marc 14:3yno y gwnaethant iddo swper; a Martha oedd yn gwasanaethu: a Lasarus oedd un o’r rhai a eisteddent gydag ef. 3Yna y cymerth #Luc 10:38, 39; Ioan 11:2Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a eneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt: a’r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint. 4Am hynny y dywedodd un o’i ddisgyblion ef, Jwdas Iscariot, mab Simon, yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, 5Paham na werthwyd yr ennaint hwn er tri chan ceiniog, a’i roddi i’r tlodion? 6Eithr hyn a ddywedodd efe, nid oherwydd bod arno ofal dros y tlodion; ond am ei fod yn lleidr, a #Pen 13:29bod ganddo’r pwrs, a’i fod yn #12:6 arwedd.dwyn yr hyn a fwrid ynddo. 7A’r Iesu a ddywedodd, Gad iddi: erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn. 8Canys #Mat 26:11y mae gennych y tlodion gyda chwi bob amser; eithr myfi nid oes gennych bob amser. 9Gwybu gan hynny dyrfa fawr o’r Iddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lasarus hefyd, #Pen 11:44yr hwn a godasai efe o feirw.
10Eithr yr archoffeiriaid a ymgyngorasant fel y lladdent Lasarus hefyd: 11Oblegid llawer o’r Iddewon a aethant ymaith o’i herwydd ef, ac a gredasant yn yr Iesu.
12 #
Mat 21:8; Marc 11:8; Luc 19:35 Trannoeth, tyrfa fawr yr hon a ddaethai i’r ŵyl, pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerwsalem, 13A gymerasant gangau o’r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, #Salm 118:25, 26Hosanna: Bendigedig #12:13 Neu, yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd yn Frenin ar Israel. yw Brenin Israel, yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd. 14A’r Iesu wedi cael asynnyn, a eisteddodd arno; megis y mae yn ysgrifenedig, 15#Sech 9:9Nac ofna, ferch Seion: wele, y mae dy Frenin yn dyfod, yn eistedd ar ebol asyn. 16Y pethau hyn ni wybu ei ddisgyblion ef ar y cyntaf: eithr #Pen 7:39pan ogoneddwyd yr Iesu, #Pen 14:26yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano, ac iddynt wneuthur hyn iddo. 17Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa, yr hon oedd gydag ef #12:17 alw ohono ef Lasarus o’r bedd, a’i godi o feirw.pan alwodd efe Lasarus o’r bedd, a’i godi ef o feirw. 18Am hyn y daeth y dyrfa hefyd i gyfarfod ag ef, am glywed ohonynt iddo wneuthur yr arwydd hwn. 19Y Phariseaid gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, #Pen 11:47A welwch chwi nad ydych yn tycio dim? wele, fe aeth y byd ar ei ôl ef.
20Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai #Act 8:27a ddaethent i fyny i addoli ar yr ŵyl: 21Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip, #Pen 1:44yr hwn oedd o Fethsaida yng Ngalilea, ac a ddymunasant arno, gan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu. 22Philip a ddaeth, ac a ddywedodd i Andreas; a thrachefn Andreas a Philip a ddywedasant i’r Iesu.
23A’r Iesu a atebodd iddynt, gan ddywedyd, #Pen 13:32; 17:1Daeth yr awr y gogonedder Mab y dyn. 24Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, #1 Cor 15:36Oni syrth y gronyn gwenith i’r ddaear, a marw, hwnnw a erys yn unig: eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer. 25#Mat 10:39; 16:25; Marc 8:35; Luc 9:24; 17:33Yr hwn sydd yn caru ei einioes, a’i cyll hi; a’r hwn sydd yn casáu ei einioes yn y byd hwn, a’i ceidw hi i fywyd tragwyddol. 26Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a #Pen 14:3; 17:24lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi, y Tad a’i hanrhydedda ef. 27#Mat 26:38, 39; Luc 12:50; Ioan 13:21Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o’r awr hon: eithr oherwydd hyn y deuthum i’r awr hon. 28O Dad, gogonedda dy enw. Yna y daeth #Mat 3:17llef o’r nef, Mi a’i gogoneddais, ac a’i gogoneddaf drachefn. 29Y dyrfa gan hynny, yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd: eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd wrtho. 30Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, #Pen 11:42Nid o’m hachos i y bu’r llef hon, ond o’ch achos chwi. 31Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr y bwrir allan #Mat 12:29; Luc 10:18; Ioan 14:30; 16:11; Eff 6:12dywysog y byd hwn. 32A minnau, #Pen 3:14; 8:28os dyrchefir fi oddi ar y ddaear, a dynnaf #Rhuf 5:18; Heb 2:9bawb ataf fy hun. 33(A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba angau y byddai farw.) 34Y dyrfa a atebodd iddo, #Salm 89:36, 37; 110:4; Esa 9:7; 53:8; Esec 37:25; Dan 2:44; 7:14, 27; Micha 4:7Ni a glywsom o’r ddeddf, fod Crist yn aros yn dragwyddol: a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd, fod yn rhaid dyrchafu Mab y dyn? pwy ydyw hwnnw Mab y dyn? 35Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Eto ychydig ennyd #Pen 8:12; 9:5; Ioan 12:46y mae’r goleuni gyda chwi. #Jer 13:16; Eff 5:8Rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni, fel na ddalio’r tywyllwch chwi: #Pen 11:10a’r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae’n myned. 36Tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch #Luc 16:8; Eff 5:8; 1 Thess 5:5; 1 Ioan 2:9, 10blant y goleuni. Hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac #Pen 8:59; 11:54a ymguddiodd rhagddynt.
37Ac er gwneuthur ohono ef gymaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt, ni chredasant ynddo: 38Fel y cyflawnid ymadrodd Eseias y proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, #Esa 53:1; Rhuf 10:16Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd? 39Am hynny ni allent gredu, oblegid dywedyd o Eseias drachefn, 40#Esa 6:9; Mat 13:14Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â’u llygaid, a deall â’u calon, ac ymchwelyd ohonynt, ac i mi eu hiacháu hwynt. 41#Esa 6:1Y pethau hyn a ddywedodd Eseias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd amdano ef.
42Er hynny llawer o’r penaethiaid hefyd a gredasant ynddo; ond #Pen 7:13; 9:22oblegid y Phariseaid ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o’r synagog: 43#Pen 5:44Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw.
44A’r Iesu a lefodd ac a ddywedodd, #Marc 9:37; 1 Pedr 1:21Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr hwn a’m hanfonodd i. 45#Pen 14:9A’r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn a’m danfonodd i. 46#Pen 12:35, 36; Ioan 3:19; 8:12; 9:5, 39Mi a ddeuthum yn oleuni i’r byd, fel y bo i bob un a’r sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y tywyllwch. 47Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, #Pen 5:45; 8:15, 26myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys #Pen 3:17ni ddeuthum i farnu’r byd, eithr i achub y byd. 48Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo un yn ei farnu: #Marc 16:16y gair a leferais i, hwnnw a’i barn ef yn y dydd diwethaf. 49Canys #Pen 8:38; 14:10myfi ni leferais ohonof fy hun: ond y Tad yr hwn a’m hanfonodd i, efe a roddes orchymyn i mi, #Deut 18:18beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn. 50Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol: am hynny y pethau yr wyf fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.