Luc 18
18
Y Barnwr Anghyfiawn a'r wraig weddw.
1Ac efe a lefarodd dammeg#18:1 hefyd A D: Gad. א B L. wrthynt i'r dyben#18:1 Llyth.: gyd â golwg at fod, &c. fod yn rhaid#18:1 iddynt א A B &c. Gad. iddynt weddïo yn wastad ac heb ddigaloni#18:1 engkakeô, llyth.: ymddwyn yn ddrwg, yn llwfr, digaloni, rhoddi i fyny, diffygio. “Nid ydym yn pallu,” 2 Cor 4:1, 16; “oni ddiffygiwn,” Gal 6:9; “na lwfrhaoch,” Eph 3:13; “na ddiffygiwch,” 2 Thess 3:13: 2gan ddywedyd, Yr oedd rhyw Farnwr mewn rhyw Ddinas, yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchai#18:2 Llyth.: troi tu ag at, talu sylw i, parchu. ddyn. 3Ac yr oedd gwraig weddw#18:3 Ex 22:22; Deut 10:18; Es 1:17 yn y Ddinas hono; a hi a barhâodd i ddyfod ato ef, gan ddywedyd, Amddiffyn fi drwy ddedfryd#18:3 ekdikeô, gwneuthur cyfiawnder, amddiffyn iawnderau, penderfynu achos (yn ol y gyfraith). Gwel Rhuf 12:19; Dad 6:10; Barn 11:36 rhag fy ngwrthwynebwr. 4Ac efe nid ewyllysiai am amser: ond wedi hyn efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad wyf yn ofni Duw, nac yn parchu dyn, 5o herwydd yn wir fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a'i hamddiffynaf drwy ddedfryd#18:5 ekdikeô, gwneuthur cyfiawnder, amddiffyn iawnderau, penderfynu achos (yn ol y gyfraith). Gwel Rhuf 12:19; Dad 6:10; Barn 11:36, rhag iddi ddyfod yn y diwedd a'm taro yn fy ngwyneb#18:5 Hupôpiazô (o hûpo ac ôps, y rhan o'r gwyneb dan y llygaid); taro dan y llygaid, dugleisio, curo un nes ei gleisio. Yma ac yn 1 Cor 9:27 “Yr wyf yn dyrnodio (cospi, Hen Gyf.) fy nghorff,” yn ei daro, ei gleisio, yn ei ddysgyblu, yn ei drin yn llym, fel dwrn‐ymladdwr yn trin ei wrthwynebwr. Yma, meddyliwn, mai yr ystyr lythyrenol yw y goreu. Y mae y barnwr diegwyddor mewn yspryd haner cythruddedig, haner chwerthingar, yn dywedyd, “Os na phenderfynaf ei hachos, cyn hir hi a gyll ei hamynedd, ac a ddaw, ac a'm sarhâ yn gyhoeddus, gan fy nharo yn fy ngwyneb!” Rhai a gyfieithant, “Rhag iddi drwy ei dyfodiad fy mhoeni i'r diwedd.”. 6A dywedodd yr Arglwydd, Gwrandêwch beth y mae y Barnwr Anghyfiawn#18:6 Llyth.: Barnwr anghyfiawnder. Gwel 16:8 yn ei ddywedyd. 7Ac oni effeithia#18:7 Llyth.: wna. Duw lwyr‐amddiffyniad#18:7 Ymddiffyniad drwy farn. i'w Etholedigion, sydd yn llefain#18:7 Llyth.: gwaeddi, bloeddio. arno ddydd a nos: ac eto#18:7 Defnyddir kai yn fynych yn yr ystyr, ac eto: “Ni wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac eto efe a agorodd fy llygaid,” Ioan 9:30; “Gadewch fi yn unig, ac eto nid wyf yn unig,” Ioan 16:32 y mae efe yn hir‐ymarhous ar eu rhan#18:7 Gwahanol ddeongliadau o'r ymadrodd dyrys: (1) Y mae efe yn oedi cospi ar eu rhan; (2) A ydyw ef yn hir cyn taro drostynt? (3) Y mae efe yn oedi cynorthwy ar eu rhan. Y mae Duw yn oedi cospi y gwrthwynebwr a'r gormeswr, yn rhanol beth bynag, er mwyn yr Etholedigion. Y mae gormes y gelyn a blinderau bywyd yn offerynau dysgyblaeth ysprydol a sancteiddhâd enaid. Yr oedd y Barnwr anghyfiawn yn oedi trwy ddifaterwch a diffyg egwyddor; y mae Duw yn oedi er dysgyblu ei bobl a phrofi eu ffydd.? 8Yr wyf yn dywedyd i chwi, yr effeithia#18:8 Llyth.: wna. efe lwyr‐amddiffyniad iddynt ar frys#18:8 Pan y byddant yn addfed i hyny.. Yn mhellach, Mab y Dyn pan ddêl, a gaiff efe yn wir y fath#18:8 Llyth.: y ffydd: y fath rinwedd wrol a didroi yn ol ag eiddo y weddw, 2 Petr 3:3, 4; Mat 24:12; 2 Thess 2:3 ffydd ar y ddaear?
Ymffrost y Pharisead, a gweddi y Treth‐gasglwr.
9Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon hefyd wrth rai hyderus ynddynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn gwneuthur dim cyfrif#18:9 Llyth.: gwneuthur dim [o eraill]; diystyru yn hollol, “Eithr y bobl hyn, y rhai ni wyddant y gyfraith, melldigedig ydynt,” Ioan 7:49. o bawb eraill#18:9 Llyth.: y gweddill.: 10Dau wr a aethant i fyny i'r Deml i weddio; un yn Pharisead, a'r llall yn Drethgasglwr#18:10 Mat 5:46. 11Y Pharisead#18:11 Felly B L WH. Tr. Diw.: a safodd wrtho ei hun, ac a weddiodd y pethau hyn A D La. Al.; a safodd ac a weddiodd א Ti. a safodd i fyny, ac a barhâodd i weddio#18:11 Yr amser anmherffaith. y pethau hyn wrtho#18:11 iddo ei hun. Efe ei hun oedd gwrthrych ei weddi. ei hun#18:11 Felly B L WH. Tr. Diw.: a safodd wrtho ei hun, ac a weddiodd y pethau hyn A D La. Al.; a safodd ac a weddiodd א Ti., O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel pawb eraill#18:11 Llyth.: y gweddill. o ddynion, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr, neu hefyd fel y Treth‐gasglwr hwn: 12yr wyf yn ymprydio#18:12 Lef 16:29; Zech 8:19 ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn rhoddi degwm o gymaint oll a enillwyf#18:12 caffael, casglu, enill, “yr wyf yn degymu fy nghyllid,” nid ei feddianau neu ei gyfalaf.. 13A'r Treth‐gasglwr, gan sefyll o hirbell#18:13 Yn mhell oddiwrth y Cysegr, neu oddiwrth y Pharisead., ni fynai gymaint a chodi ei olygon tua'r Nef, eithr a barhâodd i guro#18:13 Amser anmherffaith. ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd gymodlawn#18:13 Hilaskomai, dyhuddo, cymodi, heddychu. Yn Heb 2:17 gwneuthur cymod. â mi, y pechadur#18:13 Fel pe na buasai neb arall yn haeddu yr enw.. 14Yr wyf yn dywedyd i chwi, Aeth hwn i waered i'w dŷ wedi ei gyfiawnhâu yn#18:14 yn hytrach [para, llyth.: tu hwnt] א B D L Brnd. hytrach na'r llall. Canys pob un a ddyrchafo ei hun a ostyngir; eithr yr hwn a ostyngo ei hun a ddyrchefir.
Crist yn bendithio babanod, ac yn dysgu gwers oddiwrthynt.
[Mat 19:13–15; Marc 10:13–16]
15A hwy a ddygasant ato ef y babanod hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt: ond pan welodd y Dysgyblion, hwy a'u ceryddasant. 16Eithr yr Iesu a'u galwodd hwynt ato, gan ddywedyd, Gadêwch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo cyfryw#18:16 Sef rhai fel plant, yn meddu eu hyspryd, yn fwynaidd, gostyngedig, ymddiriedlawn, syml, pur, &c. Nid eiddo plant yw Teyrnas yr Efengyl, ond rhai fel hwynt. rai yw Teyrnas Dduw. 17Yn wir meddaf i chwi, pwy bynag ni dderbynio Deyrnas Dduw fel plentyn bach, nid â i mewn o gwbl iddi.
Y Llywodraethwr Cyfoethog yn amddifad o ffydd
[Mat 19:16–30; Marc 10:17–31]
18A rhyw Lywodraethwr#18:18 Y Synagog. a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Athraw Da, Pa beth a wnaf#18:18 Rhuf 9:32 fel yr etifeddwyf fywyd tragywyddol? 19Ond yr Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y'm gelwi i yn dda? Nid oes neb da ond Un, sef Duw. 20Ti a wyddost y gorchymynion:
Na odineba:
Na lofruddia:
Na ladrata:
Na cham‐dystiolaetha:
Anrhydedda dy dâd a'th fam#18:20 Sylwer ar y drefn wahanol yr enwir y Gorchymynion yn y Tri Efengylwr..#Ex 20:12–17; Lef 19:11–13
21Eithr efe a ddywedodd, Y pethau hyn oll a gedwais yn ddyfal#18:21 Llyth.: a wyliais drostynt. o'm hieuenctyd. 22A'r Iesu pan glybu#18:22 y pethau hyn A: Gad. א B D L Brnd., a ddywedodd wrtho, Eto y mae un peth yn ddiffygiol ynot: gwerth yr hyn oll sydd genyt, a rhana rhwng tlodion, a thi a gei drysor yn y Nefoedd: a thyred, canlyn fi. 23Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist iawn: canys yr oedd efe yn gyfoethog ryfeddol. 24A'r Iesu wrth ei weled ef#18:24 wedi myned mor athrist A D La. [Tr.]: Gad. א B L Al. Ti. WH. Diw. a ddywedodd, Gyd â y fath anhawsder#18:24 y maent yn myned i mewn B L Brnd. ond Diw.: yr ant i mewn A D y mae y rhai y mae golud ganddynt yn myned i mewn i Deyrnas Dduw! 25Canys hawddach yw i gamel fyned trwy grai nodwydd#18:25 Defnyddia Luc air gwahanol am nodwydd i'r hwn a ddefnyddir gan Mat. a Marc. Raphis yw y gair yno: belonê yma. Dynoda yr olaf y nodwydd feddygol., nag i oludog fyned i mewn i Deyrnas Dduw. 26A'r rhai a glywsant a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig? 27Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd anmhosibl gyd â dynion sydd bosibl gyd â Duw#18:27 Jer 32:17. 28Eithr Petr a ddywedodd, Wele, ni a adawsom#18:28 ein heiddo ein hunain B D L Brnd.: yr ydym wedi gadael pob peth A D. ein heiddo ein hunain#18:28 Neu, ein cartref ein hunain., ac a'th ganlynasom di. 29Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn Teyrnas Dduw, 30a'r nis derbyn yn ol lawer mwy yn y pryd hwn, ac yn y byd#18:30 Llyth.: oes. sydd yn dyfod, fywyd tragywyddol.
Crist yn rhag‐ddywedyd ei Farwolaeth a'i Adgyfodiad#18:31 Gwel 9:18, 43
[Mat 20:17–19; Marc 10:32–34]
31Ac efe a gymmerodd y Deuddeg ato, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym yn myned i fyny i Jerusalem, a'r holl bethau sydd wedi eu hysgrifenu trwy y Proffwydi am Fab y Dyn a ddygir i ben#18:31 Neu, yr holl bethau sydd wedi eu hysgrifenu trwy y Proffwydi a gyflawnir ar [neu yn, neu i] Fab y Dyn.. 32Canys efe draddodir i'r Cenedloedd, ac a watwerir, ac a drinir yn warthus, ac a boerir arno; 33a hwy a'i fflangellant, ac a'i lladdant ef; a'r trydydd dydd efe a adgyfyd. 34A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn; a'r peth#18:34 Neu, y dywediad. oedd wedi ei guddio oddi wrthynt, ac ni ddaethant i wybod y pethau a ddywedwyd.
Jericho: Iachâu Bartimeus
[Mat 20:29–34; Marc 10:46–52]
35A bu, ac efe yn neshâu at Jericho, yr oedd rhyw ddyn#18:35 Enwa Matthew (20:30) ddau ddyn dall, a dywed i hyn ddygwydd ar y ffordd allan o Jericho. Ni enwa Marc ond un, sef Bartimeus. dall yn eistedd ar ymyl y ffordd, yn cardota: 36a chan glywed tyrfa yn myned trwodd, efe a ymofynodd beth oedd hyn. 37A hwy a fynegasant iddo, Iesu o Nazareth sydd yn myned heibio. 38Ac efe a waeddodd, gan ddywedyd, Iesu, Fab Dafydd, trugarhâ wrthyf. 39A'r rhai oedd yn myned o'r blaen oeddynt yn ei geryddu ef, fel y tawai: ond efe ei hun a lefodd#18:39 Krazô, gair cryfach na Boaô, gwaeddi. Golyga y blaenaf, llefain allan, ysgrechain [Cymh. Krazô âg ysgrechain: efallai y perthynant i'r un gwreidd‐air]. yn fwy o lawer, Fab Dafydd, trugarhâ wrthyf. 40A'r Iesu a safodd, ac a orchymynodd ei arwain ef ato: a phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynodd iddo,#18:40 gan ddywedyd, A X: Gad. B D L., 41Pa beth a fyni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael o honof fy ngolwg#18:41 Llyth.: cael edrych i fyny.. 42A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymmer dy olwg#18:42 Edrych i fyny.: y mae dy ffydd wedi dy achub#18:42 Neu, iachâu.. 43Ac yn y man efe a gafodd ei olwg#18:43 Llyth.: cael edrych i fyny., ac a'i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A'r holl bobl pan welsant, a roisant foliant i Dduw.
Currently Selected:
Luc 18: CTE
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.

: