YouVersion Logo
Search Icon

Matthew 11

11
Ymofyniad Ioan Fedyddiwr.
[Luc 7:18–23]
1A bu, pan orphenodd yr Iesu gyfarwyddo#11:1 Diatassô, trefnu, gosod, ordeinio, gosod i lawr, gorchymyn (“ordeiniais,” 1 Cor 16:1; “gorchymyn,” Act 18:2; “trefnwyd,” Gal 3:19). ei Ddeuddeg Dysgybl, efe a ymadawodd oddiyno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy. 2A Ioan, pan glybu yn y carchar am weithredoedd y Crist#11:2 Y mae “Crist” yn deitl yn hytrach nag enw priodol yn yr Efengylau., wedi danfon trwy#11:2 Trwy (dia) א B C D Brnd.; dan L. [Gweler Luc 7:19] ei ddysgyblion, 3a ddywedodd, wrtho, Ai tydi yw yr Hwn#11:3 Un o deitlau y Messia; felly, dylid ei argraffu â phrif lythyren. sydd yn dyfod neu ai un gwahanol#11:3 Heteros, gwahanol; allos, arall. Golyga heteros wahaniaeth mewn rhyw neu natur; golyga allos wahaniaeth rhwng gwrthddrychau a berthynant i'r un dosparth. Gweler 1 Cor 15:40, 41 a ddysgwyliwn? 4A'r Iesu a atebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch: 5y mae y deillion yn gweled eilwaith, a'r cloffion yn rhodio; y gwahan‐gleifion a lanheir, ac y mae byddariaid yn clywed, a'r meirw yn cael eu cyfodi, ac i'r tlodion y mynegir newyddion da#11:5 Neu y pregethir yr Efengyl. Gweler Esay 35:3–6 a 61:1; 6a gwyn fyd yr hwn na chaiff achlysur o dramgwydd#11:6 Y ferf a ddeillia o skandalon, magl; yna, unrhyw wrthddrych a achlysura un i syrthio neu dramgwyddo. ynof fi.
Gwir fawredd Ioan Fedyddiwr.
7Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y torfeydd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i'r anialwch i syllu#11:7 Theaomai, edrych yn graffus. arno? ai corsen yn ysgwyd gan wynt? 8Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai dyn wedi ei wisgo â dillad esmwyth#11:8 Malakos, tyner i'r cyffwrdd, masw.? Wele, y rhai sydd yn gwisgo dillad#11:8 Dillad C P; gad. א B D Z Brnd. esmwyth, yn nhai breninoedd y maent. 9Eithr#11:9 Felly א B Z Al. Ti. WH. Eithr pa belh yr aethoch allan i'w weled? ai proffwyd? C D L La. Tr. paham yr aethoch allan? I weled proffwyd? Ie, meddaf i chwi, a llawer mwy nâ phroffwyd. 10Canys hwn yw efe am yr hwn y mae wedi ei ysgrifenu,
“Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghenad o flaen dy wyneb,
Yr hwn a barotoa dy ffordd o'th flaen.”#Mal 3:1
11Yn wir meddaf i chwi, Yn mhlith y rhai a aned o wragedd ni chyfododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr; ond yr hwn sydd lai#11:11 Ho mikroteros, yr hwn sydd lai, yn ieuengach, sef Crist (Chrysostom, &c.), neu yr hwn sydd lai nâ phawb ereill yn y deyrnas, sef y lleiaf. yn Nheyrnas Nefoedd sydd fwy nag ef. 12Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr Teyrnas Nefoedd a gymmerir drwy rym#11:12 Biazetai (yn y llais goddefol, ac nid y canol), a ddynoda a gymmerir trwy rym, orthrech, neu drais, a oresgynir, a ennillir trwy ymdrech; “dangosir sêl angerddol ac ymdrech egniol i gael meddiant o Deyrnas Nefoedd.” Y mae y geiriau trais a threiswyr yn hytrach yn rhy gryfion., a'r gwyr grymus#11:12 Biazetai (yn y llais goddefol, ac nid y canol), a ddynoda a gymmerir trwy rym, orthrech, neu drais, a oresgynir, a ennillir trwy ymdrech; “dangosir sêl angerddol ac ymdrech egniol i gael meddiant o Deyrnas Nefoedd.” Y mae y geiriau trais a threiswyr yn hytrach yn rhy gryfion. sydd yn dal gafael#11:12 Harpazô, dal yn gyndyn, cipio, gafaelyd gyd ag ymdrech. arni. 13Canys yr holl Broffwydi a'r Gyfraith a broffwydasant hyd Ioan. 14Ac os ewyllysiwch ei dderbyn#11:14 Neu, dderbyn (yr ymadrodd)., efe yw Elias yr hwn oedd ar ddyfod. 15Y neb sydd ganddo glustiau#11:15 I wrando א C Z; gad. B D Brnd., gwrandawed.
Y genedlaeth drofaus a gwrthnysig.
[Luc 7:31–35]
16Eithr i ba beth y cyffelybaf y genedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant bychain yn eistedd yn y marchnadleoedd, y rhai, gan alw ar y#11:16 Ar y lleill [heterois] א B C D Z L Brnd.; ar eu cyfeillion [hetairois] G Syr. lleill, 17a ddywedant, Canasom ar bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; cwynfanasom, ac ni churasoch#11:17 Hyny yw, ni alarasoch. ddwyfron. 18Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed; ac meddant, Y mae cythraul ganddo. 19Daeth Mab y Dyn yn bwyta ac yn yfed; ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill Treth‐gasglwyr a phechaduriaid. Etto, Doethineb a gyfiawnhawyd gan#11:19 Llyth., oddiwrth, ar ran (apo). ei phlant#11:19 Ei phlant C D L La. Al.; ei gweithredoedd א B Ti. Tr. WH. Diw. Y mae Luc 7:35 yn ffafriol i'r blaenaf. Y mae plant yn gyferbyniol i'r “genedlaeth hon.” Y mae doethineb Duw fel mae yn arddangosedig yn mywyd allanol Crist a Ioan Fedyddiwr, yn cael ei chymmeradwyo gan y rhai sydd ddoeth, y rhai a welant bob peth yn ngoleuni Duw. ei hun.
Condemniad y dinasoedd anedifeiriol.
[Luc 10:13–15]
20Yna y dechreuodd efe edliw i'r dinasoedd yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o'i weithredoedd nerthol ef, am nad edifarhasent: 21Gwae di, Chorazin; gwae di, Bethsaida; canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol sydd wedi eu gwneyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm mewn sachlian a lludw. 22Er hyny, meddaf i chwi, Esmwythach#11:22 Anektoteron, mwy goddefadwy. fydd i Tyrus a Sidon yn Nydd y Farn nag i chwi. 23A thydi Capernäum#11:23 Kapharnaoum א B D Brnd.; Kapernaoum C.,#11:23 Felly א B C D Brnd.; yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef L X Δ. a ddyrchefir di hyd y nef? ti a äi#11:23 A äi i lawr [katabêsê] B D La. Tr. WH. Diw.; a dynir i lawr, neu a deflir i lawr [katabibasthêsê] א C L Δ Al. Ti. i lawr hyd yn Hades, canys pe gwnaethid yn Sodom y gweithredoedd nerthol sydd wedi eu gwneyd ynot ti, hi a arosai hyd heddyw. 24Er hyny, meddaf i chwi, y bydd esmwythach#11:24 Anektoteron, mwy goddefadwy. i dir Sodom yn Nydd y Farn nag i ti.
Y gwir ddoethion.
[Luc 10:21, 22]
25Yr amser hwnw yr atebodd yr Iesu, gan ddywedyd, Yr ydwyf yn diolch#11:25 Llyth., Yr ydwyf yn cyffesu i ti; cyfaddef, cydnabod yn ddiolchgar, moliannu. i Ti, O Dad, Arglwydd y nef a'r ddaear, am i Ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a datguddio y cyfryw i fabanod. 26Ie, O Dad, am mai gwneuthur felly oedd dy ewyllys da. 27Pob peth a roddwyd#11:27 Llyth., a drosglwyddwyd. i mi gan fy Nhad; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddatguddio iddo.
Y wir orphwysfa.
28Deuwch ataf fi, bawb ag ydych yn ymboeni#11:28 Peinaô, llafurio gydag ymdrech, ymboeni, ymdrafferthu, ymegnio nes blino. ac yn llwythog, a mi a roddaf i chwi orphwysdra. 29Cymmerwch fy iau arnoch, a dysgwch genyf, canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon; a chwi a gewch orphwysdra i'ch eneidiau. 30Canys fy iau sydd esmwyth, a'm baich sydd ysgafn.

Currently Selected:

Matthew 11: CTE

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in