Matthew 14
14
Tyb Herod am Grist.
[Marc 6:14–16; Luc 9:7–9]
1Y pryd#14:1 Llyth., “Yn y tymhor hwnw.” hwnw y clybu Herod y Tetrarch#14:1 Tetrarch, llywodraethwr ar bedwaredd ran: rhanodd Herod Fawr ei deyrnas i bedair rhan. son am yr Iesu; 2ac efe a ddywedodd wrth ei weision#14:2 Pais, plentyn; yna gwas, gweinidog, gweinydd, yn enwedig i freninoedd, &c., Ioan Fedyddiwr ei hun yw hwn: efe a gyfodwyd oddiwrth y meirw, ac am hyny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.
Carchariad a marwolaeth Ioan Fedyddiwr.
[Marc 6:17–29; Luc 3:19, 20]
3Canys Herod a ddaliodd Ioan, ac a'i rhwymodd, ac a'i dododd#14:3 Dododd ymaith א B Brnd.; dododd C L. yn y carchar#14:3 Y carchar, hyny yw, y carchar adnabyddus, sef Caerfa Machærus. o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd ef. 4Canys dywedodd Ioan wrtho, Nid yw gyfreithlawn i ti ei chael hi. 5Ac efe yn ewyllysio ei ladd ef a ofnodd y dyrfa; canys hwy a'i cyfrifent ef fel proffwyd. 6Eithr pan ddaeth#14:6 Genomenois — “daeth,” ac nid agomenois — “cedwid,” yw y darlleniad gwreiddiol.#14:6 Pan gadwyd X Δ E G, 33; pan ddaeth א B D L Brnd. gŵyl ddydd#14:6 Genesia, dathliad neu wledd dydd genedigaeth. genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias yn y canol, ac a ryngodd fodd Herod. 7O ba herwydd efe, gyda llw, a addawodd#14:7 Homologeô, prif ystyr yr hwn yw cyffesu, addef, proffesu; felly, golyga yma addaw mewn atebiad i gais, yr hwn a wnaed efallai yn anuniongyrchol. roddi iddi beth bynag a ofynai. 8A hithau, wedi ei hannog#14:8 Probibazô, gyru yn mlaen (Act 19:33), cymhell yn mlaen, gosod yn mlaen. yn mlaen gan ei mam, a ddywed, Dyro i mi yma ar ddysgl#14:8 Pinax, pren‐ddysgl (a wnaed yn gyffredin o'r pinwydd). ben Ioan Fedyddiwr. 9A'r brenin a dristhawyd. O herwydd ei lwon, a'r rhai a eisteddent#14:9 Neu gwesteion, gwahoddedigion. gydag ef, efe a orchymynodd ei roddi. 10Ac efe a anfonodd ac a dorodd ymaith ben Ioan yn y carchar. 11A dygwyd ei ben ef ar ddysgl, ac a'i rhoddwyd i'r llances#14:11 Neu geneth (Marc 5:41, 42).; a hi a'i dug ef i'w mam. 12A'i ddysgyblion ef a ddaethant, ac a gymmerasant i fyny y corff#14:12 Y corff [ptôma, corff marw] א B C D L Brnd.; y corff [sôma, corff byw] X., ac a'i claddasant ef#14:12 Hyny yw, yn ol y rhyw a ddefnyddir, Ioan, ac nid y corff.#14:12 Ef [Ioan] א B Brnd.; ef [y corff] C D.; ac a aethant ac a fynegasant i'r Iesu.
Diwallu y pum' mil.
[Marc 6:31–44; Luc 9:10–17; Ioan 6:1–14]
13Eithr pan glybu yr Iesu#14:13 Nid am ddienyddiad Ioan, ond am ofergoeledd Herod., efe a ymneillduodd oddiyno mewn cwch i annghyfanneddle yn ddirgelaidd#14:13 Neu wrtho ei hun, neu o'r neilldu., ac wedi clywed o'r torfeydd, hwy a'i canlynasant ef ar draed#14:13 Neu dros y tir. allan o'r dinasoedd. 14A'r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, ac a iachaodd eu cleifion#14:14 Llyth., rhai heb nerth, gweiniaid. hwynt.
15A phan ddaeth yr hwyr, daeth y Dysgyblion ato gan ddywedyd, Y lle sydd annghyfannedd, a'r awr a aeth weithian heibio: gollwng ymaith y torfeydd, fel yr elont i'r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fwyd. 16Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. 17A hwy a ddywedant wrtho, Nid oes genym ni yma ond pum' torth a dau bysgodyn. 18Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi. 19Ac wedi gorchymyn i'r torfeydd eistedd#14:19 Groeg, lled‐orwedd. ar y glaswellt, a chymmeryd y pum' torth a'r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny i'r nef, ac a fendithiodd ac a dorodd ac a roddodd y torthau i'r Dysgyblion, a'r Dysgyblion i'r torfeydd. 20A hwynt oll a fwytasant, ac a gawsant eu digoni; ac a godasant weddill y briwfwyd, ddeuddeg basgedaid yn llawn. 21A'r rhai a fwytasant oeddynt yn nghylch pum' mil o wyr, heblaw gwragedd a phlant.
Y gwynt cryf a ffydd wan.
[Marc 6:45–56; Ioan 6:15–21]
22Ac yn ebrwydd y perodd efe i'r Dysgyblion fyned i gwch#14:22 I gwch B Tr. WH.; i'r cwch א C D L Ti. Al. Diw., ac i'w ragflaenu i'r lan arall, tra fyddai efe yn gollwng ymaith y torfeydd. 23Ac wedi iddo ollwng ymaith y torfeydd, efe a esgynodd i'r mynydd o'r neilldu,#14:23 Neu, yn ddirgelaidd. i weddio; a phan ddaeth yr hwyr#14:23 Opsia, hwyr, naill ai o dri o'r gloch i chwech (adnod 15, Mat 8:16; 27:57; Marc 4:35), neu o chwech o'r gloch i ddechreu y nos (megys yn yr adnod hon — Mat 20:8; 26:20; Marc 6:47, &c.)., yr oedd efe yno yn unig. 24Ond y cwch oedd weithian yn nghanol y môr#14:24 Felly א C L La. Al. Ti. Diw.; bellder o ystadau lawer oddiwrth y tir; B Tr. WH., yn drallodus#14:24 Basanizo, profi, poeni, cythryblu, blino; yn Marc 6:48, “yn flin arnynt.” (Desgrifir y cwch fel pe buasai yn meddiannu bywyd) gan y tonau, canys yr oedd y gwynt yn groes. 25Ac yn y bedwaredd wylfa o'r nos daeth efe#14:25 Yr Iesu L X; Gad. א B C D Brnd. atynt, yn rhodio ar y môr. 26A phan welodd y Dysgyblion ef ar y môr yn rhodio, hwy a gythryblwyd#14:26 Tarassô, cynhyrfu, aflonyddu, cyffroi, trallodi., gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw! A hwy a waeddasant gan ofn. 27Ac yn ebrwydd y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Cymmerwch galon#14:27 Llyth., ymwrolwch, ymsiriolwch., Myfi ydyw: nac ofnwch. 28A Phetr a'i hatebodd ac a ddywedodd wrtho, Arglwydd, os Tydi yw, arch i mi ddyfod atat Ti ar y dyfroedd. 29Ac efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi i Petr ddisgyn o'r cwch, efe a rodiodd ar y dyfroedd, ac#14:29 Ac a ddaeth B Ti. WH.; i ddyfod אc Ca D L. Al. La. Tr. Diw.; ac a ddaeth i ddyfod א. a ddaeth at yr Iesu. 30Ond pan welodd efe y gwynt#14:30 Yn gryf C D La. Tr. Al.; Gad. א B Ti. WH. Diw., efe a ofnodd; a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, achub fi. 31Ac yn ebrwydd yr Iesu a estynodd ei law, ac a ymaflodd ynddo, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd#14:31 Un gair sydd yn y Groeg am y frawddeg, Oligopiste, O y gwanffyddiog!, paham#14:31 Llyth., i ba beth? i ba amcan? yr amheuaist#14:31 Distazô, petruso, anwadalu, bod yn ansefydlog, bwhwman, amheu.? 32A phan yr aethant#14:32 A phan yr aethant i fyny א B D Brnd.; a phan aethant i fewn C P. i fyny i'r cwch, tawelodd#14:32 Llyth., blinodd, diffygiodd, gwanychodd. y gwynt. 33A'r rhai oeddynt yn y cwch a ddaethant, ac a'i haddolasant ef, gan ddywedyd, Yn wir, Mab Duw ydwyt ti.
34Ac wedi iddynt fyned drosodd, hwy a ddaethant at#14:34 At [epi] y tir i [eis] Gennesaret א B D Δ Brnd.; i dir Gennesaret P. y tir, i Gennesaret. 35A phan adnabu gwŷr y lle hwnw ef, hwy a anfonasant i'r holl wlad hono o amgylch, ac a ddygasant ato yr holl gleifion; 36ac a atolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl#14:36 Yn hytrach, ymylwaith, siobyn (gweler dan Mat 9:20). ei wisg#14:36 Neu fantell, y wisg uchaf. ef: a chynnifer a gyffyrddodd a wnaed yn holliach.
Currently Selected:
Matthew 14: CTE
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.

: