Ioan 21
21
Iesu'n Ymddangos i'r Saith Disgybl
1Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i'w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias. A dyma sut y gwnaeth hynny. 2Yr oedd Simon Pedr, a Thomas, a elwir Didymus, a Nathanael o Gana Galilea, a meibion Sebedeus, a dau arall o'i ddisgyblion, i gyd gyda'i gilydd. 3A dyma Simon Pedr yn dweud wrth y lleill, “Rwy'n mynd i bysgota.” Atebasant ef, “Rydym ninnau'n dod gyda thi.” Aethant allan, a mynd i mewn i'r cwch. Ond ni ddaliasant ddim y noson honno. 4Pan ddaeth y bore, safodd Iesu ar y lan, ond nid oedd y disgyblion yn gwybod mai Iesu ydoedd. 5Dyma Iesu felly'n gofyn iddynt, “Does gennych ddim pysgod, fechgyn?” “Nac oes,” atebasant ef. 6Meddai yntau wrthynt, “Bwriwch y rhwyd i'r ochr dde i'r cwch, ac fe gewch helfa.” Gwnaethant felly, ac ni allent dynnu'r rhwyd i mewn gan gymaint y pysgod oedd ynddi. 7A dyma'r disgybl hwnnw yr oedd Iesu'n ei garu yn dweud wrth Pedr, “Yr Arglwydd yw.” Yna, pan glywodd Simon Pedr mai'r Arglwydd ydoedd, clymodd ei wisg uchaf amdano (oherwydd yr oedd wedi tynnu ei ddillad), a neidiodd i mewn i'r môr. 8Daeth y disgyblion eraill yn y cwch, gan lusgo'r rhwyd yn llawn o bysgod; nid oeddent ymhell o'r lan, dim ond rhyw gan medr. 9Wedi iddynt lanio, gwelsant dân golosg wedi ei osod, a physgod arno, a bara. 10Meddai Iesu wrthynt, “Dewch â rhai o'r pysgod yr ydych newydd eu dal.” 11Dringodd Simon Pedr i'r cwch, a thynnu'r rhwyd i'r lan yn llawn o bysgod braf, cant pum deg a thri ohonynt. Ac er bod cymaint ohonynt, ni thorrodd y rhwyd. 12“Dewch,” meddai Iesu wrthynt, “cymerwch frecwast.” Ond nid oedd neb o'r disgyblion yn beiddio gofyn iddo, “Pwy wyt ti?” Yr oeddent yn gwybod mai yr Arglwydd ydoedd. 13Daeth Iesu atynt, a chymerodd y bara a'i roi iddynt, a'r pysgod yr un modd. 14Dyma, yn awr, y drydedd waith i Iesu ymddangos i'w ddisgyblion ar ôl iddo gael ei gyfodi oddi wrth y meirw.
Portha Fy Nefaid
15Yna, wedi iddynt gael brecwast, gofynnodd Iesu i Simon Pedr, “Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i yn fwy na'r rhain?” Atebodd ef, “Ydwyf, Arglwydd, fe wyddost ti fy mod yn dy garu di#21:15 Neu, yn gyfaill i ti. Felly hefyd yn adn. 16 a 17..” Meddai Iesu wrtho, “Portha fy ŵyn.” 16Wedyn gofynnodd iddo yr ail waith, “Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i?” “Ydwyf, Arglwydd,” meddai Pedr wrtho, “fe wyddost ti fy mod yn dy garu di.” Meddai Iesu wrtho, “Bugeilia fy nefaid.” 17Gofynnodd iddo y drydedd waith, “Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i?#21:17 Neu, A wyt ti'n gyfaill i mi? Felly hefyd yn y frawddeg nesaf.” Aeth Pedr yn drist am ei fod wedi gofyn iddo y drydedd waith, “A wyt ti'n fy ngharu i?” Ac meddai wrtho, “Arglwydd, fe wyddost ti bob peth, ac rwyt ti'n gwybod fy mod yn dy garu di.” Dywedodd Iesu wrtho, “Portha fy nefaid. 18Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, pan oeddit yn ifanc, yr oeddit yn dy wregysu dy hunan, ac yn mynd lle bynnag y mynnit. Ond pan fyddi'n hen, byddi'n estyn dy ddwylo i rywun arall dy wregysu, a mynd â thi lle nad wyt yn mynnu.” 19Dywedodd hyn i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth yr oedd Pedr i ogoneddu Duw trwyddi. Ac wedi iddo ddweud hyn, meddai wrth Pedr, “Canlyn fi.”
Y Disgybl Annwyl
20Trodd Pedr, a gwelodd y disgybl yr oedd Iesu'n ei garu yn eu canlyn—yr un oedd wedi pwyso'n ôl ar fynwes Iesu yn ystod y swper, ac wedi gofyn iddo, “Arglwydd, pwy yw'r un sy'n mynd i'th fradychu di?” 21Pan welodd Pedr hwn, felly, gofynnodd i Iesu, “Arglwydd, beth am hwn?” 22Atebodd Iesu ef, “Os byddaf yn dymuno iddo ef aros hyd nes y dof fi, beth yw hynny i ti? Canlyn di fi.” 23Aeth y gair yma ar led ymhlith ei ddilynwyr, a thybiwyd nad oedd y disgybl hwnnw i farw. Ond ni ddywedodd Iesu wrtho nad oedd i farw, ond, “Os byddaf yn dymuno iddo aros hyd nes y dof fi, beth yw hynny i ti?”
24Hwn yw'r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac sydd wedi ysgrifennu'r pethau hyn. Ac fe wyddom ni fod ei dystiolaeth ef yn wir.
25Y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth Iesu. Petai pob un o'r rhain yn cael ei gofnodi, ni byddai'r byd, i'm tyb i, yn ddigon mawr i ddal y llyfrau fyddai'n cael eu hysgrifennu.#21:25 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir yr adran a welir yn In. 7:53—8:11.
Actualmente seleccionado:
Ioan 21: BCND
Destacar
Compartir
Copiar
¿Quieres guardar tus resaltados en todos tus dispositivos? Regístrate o Inicia sesión
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004

: