1
Ioan 10:10
Y Cyfammod Newydd - Y Pedair Efengyl 1818 (John Jones)
Ni ddaw lleidr ond i ladratta, ac i ladd, ac i ddistrywio: myfi a ddaethum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaeth.
Vertaa
Tutki Ioan 10:10
2
Ioan 10:11
Myfi wyf y bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid.
Tutki Ioan 10:11
3
Ioan 10:27
Y mae fy nefaid i yn gwrandaw fy llais; a mi a’u hadwaen hwynt, a hwy a’m canlynant i
Tutki Ioan 10:27
4
Ioan 10:28
A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol: ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i.
Tutki Ioan 10:28
5
Ioan 10:9
Myfi yw y drws: os a neb i mewn trwof fi, efe a fydd cadwedig: ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa.
Tutki Ioan 10:9
6
Ioan 10:14
Myfi yw y bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a’m hadweinir gan yr eiddof fi.
Tutki Ioan 10:14
7
Ioan 10:29-30
Fy Nhad i yr hwn a’u rhoddes i mi, sydd fwy nâ phawb: ac ni’s gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad. Myfi a’r Tad ydym ûn.
Tutki Ioan 10:29-30
8
Ioan 10:15
Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau y Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid.
Tutki Ioan 10:15
9
Ioan 10:18
Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr o honof fy hun. Y mae gennyf feddiant i’w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i’w chymmeryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad.
Tutki Ioan 10:18
10
Ioan 10:7
Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid.
Tutki Ioan 10:7
11
Ioan 10:12
Eithr y gwas cyflog, a’r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a’r blaidd sydd yn eu hysglyfio, ac yn tarfu y defaid.
Tutki Ioan 10:12
12
Ioan 10:1
YN wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn trwy y drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, sy leidr ac yspeiliwr.
Tutki Ioan 10:1
Koti
Raamattu
Suunnitelmat
Videot