Luc 21

21
Rhodd hael y weddw dlawd
1Pan edrychodd i fyny, gwelodd bobl gyfoethog yn taflu eu rhoddion i flwch casglu’r deml. 2Gwelodd hefyd ryw wraig weddw dlawd yn rhoddi dau ddarn bychan iawn o arian. 3Ac meddai, “Rwy’n dweud y gwir wrthych, rhoddodd y weddw dlawd hon fwy na neb o’r lleill, 4oherwydd rhoi o’u digon a mwy a wnaeth y lleill, ond rhoddodd hon o’i thlodi gymaint ag a feddai — ei bywoliaeth i gyd.”
Proffwydo dinistr y Deml
5Tra soniai rhai ohonyn nhw am y Deml, fel roedd wedi’i addurno â meini gwerthfawr a’r rhoddion a gyflwynid iddi, dywedodd yntau, 6“Am y pethau hyn a welwch, daw amser pan na adewir carreg ar garreg heb eu dymchwelyd.”
Dyma nhw’n gofyn, 7“Athro, pa bryd felly bydd y pethau hyn, a pha arwydd a gawn eu bod ar ddigwydd?”
8“Cymerwch ofal rhag i neb eich twyllo chi,” oedd yr ateb, “oherwydd daw llawer yn fy enw, gan ddweud, ‘Myfi yw,’ neu ‘Mae’r amser yn agos.’ Na wnewch ddim â nhw. 9A phan glywch sôn am ryfeloedd a therfysg, peidiwch ag ofni. Rhaid i’r pethau hyn ddigwydd yn gyntaf, ond ni ddaw y diwedd ar unwaith.”
Proffwydo dioddefaint byd-eang
10Yna y dywedodd wrthyn nhw, “Fe gwyd cenedl mewn rhyfel yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas; 11bydd daeargrynfâu mawr, a newyn a heintiau mewn llawer lle; pethau dychrynllyd, ac arwyddion mawr o’r nef. 12Ond cyn hyn i gyd, fe’ch dalian chi a’ch erlid, gan eich dwyn ymlaen yn y synagogau ac i garcharau, neu eich dwyn o flaen brenhinoedd a llywodraethwyr am eich bod yn dwyn f’enw i. 13Hwn fydd eich cyfle i fod yn dystion. 14Felly penderfynwch beidio â pharatoi eich amddiffyn ymlaen llaw, 15oherwydd rhoddaf ichi gymaint huodledd a doethineb fel na fydd eich holl wrthwynebwyr yn gallu’i wadu na’i wrth-ddweud. 16Ond bradychir chi hyd yn oed gan rieni a brodyr, teulu a chyfeillion, ac fe fyddan nhw yn achos angau i rai ohonoch. 17Cewch eich casáu gan bawb am eich bod yn dwyn f’enw i. 18Ond ni chollir blewyn o wallt eich pen. 19Drwy sefyll yn gadarn fe sicrhewch y gwir fywyd.
20“Ond pan welwch Jerwsalem wedi ei hamgylchu gan fyddinoedd, byddwch yn gwybod nad yw ei distryw ymhell. 21Dyna’r pryd y dylai’r rhai sydd yn Jwdea gilio i’r mynyddoedd. Rhaid i’r rhai fydd yng nghanol y ddinas ddianc, ac nac eled y rhai sydd allan yn y meysydd i mewn iddi. 22Dyddiau dial fyddan nhw, yn gwireddu popeth y proffwydwyd amdano. 23Druan o’r gwragedd sy’n disgwyl plant, a rhai â phlant sugno yn y dyddiau hynny. Oherwydd bydd gwasgfa fawr yn y tir, a barn ar y bobl hyn. 24Lleddir nhw â’r cleddyf, dygir nhw’n gaeth i bob gwlad, a Jerwsalem fydd wedi’i sarnu dan draed dieithriaid hyd ddiwedd eu cyfnod. 25Bydd arwyddion ar yr haul a’r lleuad a’r sêr, a bydd gofid ymhlith cenhedloedd daear, wedi’u drysu gan ruad tonnau’r môr. 26Llewyga dynion gan ofn o ddeall beth sydd i ddigwydd i’r byd, oherwydd fe siglir pwerau’r nef. 27Yna y gwelir Mab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl a chanddo nerth a gogoniant mawr. 28Ond pan ddechreuo’r pethau hyn, codwch eich pennau ac edrychwch i fyny: oherwydd bydd eich gwaredigaeth yn agos.”
Angen bod yn wyliadwrus
29Adroddodd ddameg wrthyn nhw, “Edrychwch ar y ffigysbren, a’r holl brennau o ran hynny. 30Pan ddaw’r dail arnyn nhw, gwyddoch heb i neb ddweud wrthych fod yr haf yn agos. 31Yn union felly, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn deall fod teyrnasiad Duw ar fin dod yn ffaith. 32Credwch fi, ni ddaw’r genhedlaeth hon i ben cyn i’r holl bethau hyn ddigwydd. 33Fe â nef a daear heibio, ond nid â fy ngeiriau i heibio fyth.
34“Byddwch yn wyliadwrus rhag i’ch meddwl gael ei niwlo un amser gan drachwant a meddwdod neu drafferthion y bywyd hwn, neu fe ddaw’r Dydd hwnnw ar eich gwarthaf a’ch cael yn gwbl amharod. 35Felly y daw ar holl drigolion daear, fel cau magl. 36Gwyliwch a gweddïwch yn gyson, felly, er mwyn cael bod yn ddigon cryf i ddianc rhag popeth sydd i ddigwydd, a sefyll ym mhresenoldeb Mab y Dyn.”
37Treuliai ei ddyddiau yn dysgu yn y Deml; yna âi allan a threulio’r nos ar y mynydd a elwid yr Olewydd.
38A thyrrai’r bobl i gyd ben bore ato i’r Deml i’w glywed.

Tällä hetkellä valittuna:

Luc 21: FfN

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään