Hosea 3

3
1A dywedodd Iafe wrthyf,
“Dos eto, câr wraig
A gerir gan arall ac y sy’n godinebu,
Fel y câr Iafe Feibion Israel,
Er iddynt droi at dduwiau eraill,
A charu teisennau grawnwin.”
2Felly prynais hi imi am bymtheg o arian a chomer o haidd a lethech o haidd.#3:2 o haidd. LXX o win. 3A dywedais wrthi,
“Aros amdanaf ddyddiau lawer,
Na phuteinia, ac na fydd eiddo gŵr;
Felly finnau i ti.”
4Canys dyddiau lawer yr erys Meibion Israel
Heb frenin a heb dywysog,
A heb aberth a heb faen-hir,
A heb effod na theraffim;
5Wedi hynny dychwel Meibion Israel
A cheisiant Iafe eu Duw, a Dafydd eu brenin,
Ac arswydant oherwydd Iafe,
Ac oherwydd ei ddaioni yn niwedd y dyddiau.

Tällä hetkellä valittuna:

Hosea 3: CUG

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään