Luc 17:26-27

Luc 17:26-27 CTE

Ac megys y bu yn nyddiau Noah felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y Dyn. Yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn priodi, yn cael eu rhoi mewn priodas, hyd y dydd yr aeth Noah i mewn i'r Arch, a daeth y Diluw, ac a'u dinystriodd hwynt oll.