Psalmau 10

10
Y Psalm. X. Englyn Proest Cyfnewidiog.
1Baham y seft o bell?
Dvw, tro o ymgvdhio, mae gwall;
Ya amser rhywarfer hyll,
koelia di imikledi mwll.
2Y rhai enwir oe hanian,
Ae balchder ansyber senn
Y dilidant dylodion:
Dalier hwy yn idilyn,
Yw hir gryhwyll ae twyll twnn,
O dhialedha a fedhyliyn.
3Achwedi y pechadvr
Yw fedhwl tost fost dhiferr,
Moliant a fynn fal milwr,
Dvw o wegi fo ae digir.
4Mor falch ywr drwgtrwy wg trwm,
Yn achos Dvw ni chais dim:
Yn i fedwl, lledffwl llym
Nid oes Duw byw ir kyw kam.
5I ffordh sy hyffordh i hwnn
I farn ir kaith, kewth waith chwynn:
Vwch law i walk vchel wenn
Gofyn a wna gwaetha ’r gwann
Yleni, ae elynion.
6Dywaid yw fedhwl diwann,
Nim kynhyrfir, y gwir gwnn;
A thramgwydh ni dhigwydh ynn
Bur oglyd drwy beryglon.
7Llawn rheg yw i geg a gad,
O dwyll a drwg a dull drvd:
Bu lawn bevnydh blin benyd,
Yn deifio dan i dafod.
8E lecha yn ei loches,
Drwy gelv y dirgelwas:
Iladh gwirioniaid rhaidvs,
Ysbio a wnaiff os bai nos,
Dylodion llesgion or llys.
9Drwy goel wych dirgel lecha
Fal llew klab yw ffav, ni ffy,
Gwiliodh daliodh heb gelv,
O draws ir tlawd ae dreisio
E dreisia band yw resyn
O ledwg y tylodion.
Oedh wacl hynt ban dhalio hwn
Iw rwydav anwir adwen.
10Fo gryma o bla yw blyg
Nes del oe serth nerth yn wag:
Oni dhalio o dro drwg
Dhid wyll wr kyst vdhiedig.
11O dhiwedh ef a dhywad
Anghofiod Dvw, Gwiwdhuw ’n gwyd;
O gudhio i drem a gwedh drvd
A mwy ’n ol ni mynn weled.
12Kyfod ner wiwner enwog
Diwael a da dy law deg;
Heb anghofiaw o daw dig
Dylodion yn dy ledwg.
13Dyn drwg o gam pam ywr pwyth
Distyrv Duw di-stor doeth:
Dywaid yw fedhwl diwaith
Was taer na wnai yst yriaeth.
14Gwelaist edrychaist y drin
Drygav a chammav wych ion:
Kymeri draw ith law lan
Dylodi diwael adyn,
Help ymdvhifaid gweiniaid, gwnn.
15Tor nerth y drygdhyn trwy nad
A r maleiswyr aml isod:
Chwilia o gilwg i drwg drdd
Heno na bytho yn y byd.
16Dow sydh frenin rhin ar hynt
Yn drag wydhawl i hawl hwnt;
Pobloedh îs tiroedh ae stent
Sydh dhi-ffydh a dhiffodhant.
17Gwrande waist ni dheliaist dhig,
A fynn tylawd ifanag:
Gwnai i kalon vnion en wog
Ae gwrando yn gowreindeg.
18I farnv tlawd dafawd dwfn
Ymdhifad a gad heb gefn:
I gav y trwch serthwch safn
byth na pharo efo ofn.

Tällä hetkellä valittuna:

Psalmau 10: SC1595

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään