Logo YouVersion
Îcone de recherche

Genesis 8:21-22

Genesis 8:21-22 BWMG1588

Yna’r aroglodd yr Arglwydd arogl esmwyth; a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon ni chwanegaf felldithio y ddaiar mwy er mwyn dŷn: er [bôd] brŷd calon dŷn yn ddrwg oi ieuenctid: ac ni chwanegaf mwy ladd pôb [peth] byw, fel y gwneuthum. Pryd hâu, a chynhaiaf, ac oerni, a gwrês, a hâf, a gaiaf, a dydd, a nôs, ni pheidiant mwy holl ddyddiau y ddaiar.