Logo YouVersion
Îcone de recherche

Mathew 2:7-13

Mathew 2:7-13 DAFIS

Wedyn galwodd Herod i sgolors mowr o bant ato fe, a heb bo neb arall in gwbod 'ny fe dreiodd e 'u câl nhw i weu 'tho pryd in gowir we'r seren wedi dwâd i'r golwg. Halodd e nw i Bethlehem a gweu 'thon nhwy, “Cerwch a holwch obitu'r crwt; pan ffeindiwch chi e halwch wbod i fi, fel galla' i ddod a dangos parch 'ddo fe 'fyd.” Gronodon nw ar beth wedo'r brenin a mynd ar 'u wâc; a âth i seren wen nhwy wedi gweld pan gododd i o'u blân nhw, a stopo dros i lle lle we'r crwt. Pan welon nwy'r seren wen nw wrth 'u bodde. Ethon nw miwn i'r tŷ a gweld i crwt 'da'i fam, Mair. Cwmpon nw i'r llawr ar 'u penlinie o'i flân e, a dangos parch iddo fe, a wedi iddyn nw agor 'u trisore fe roion nw our, thus a myrr iddo fe. Gêthon nw freuddwd in gweu'thyn nw beido mynd nôl at Herod, ond in lle 'ny mynd gatre i'w gwlad u hunen wrth iwso hewl arall. Wedi'r sgolors mowr fynd, dâth angel ir Arglwi at Joseff miwn breuddwd arall, a gweu 'tho fe, “Coda, cer â'r crwt a'i fam, a jengwch i'r Aifft; aroswch fan'ny wedyn hys nes bo fi'n gweu 'thoch chi, achos ma Herod in golgu 'drych am i crwt fel gall e 'i ladd e”.