Logo YouVersion
Îcone de recherche

Versions de la Bible

Y Testament Newydd (William Morgan) Diwygiedig 1991

Welsh, Galés

RHAGAIR

Un o’r trysorau pennaf a feddwn fel cenedl yw’r cyfieithiad Cymraeg o’r Beibl a alwn yn ‘Feibl William Morgan’. Byth er pan gyhoeddwyd ef gyntaf, dros bedair canrif yn ôl, cydnabuwyd ei fod yn gampwaith gorchestol. Enillodd le cynnes yng nghlust a chalon to ar ôl to o Gymry, gan ddod yn batrwm i Gymraeg llenyddol a Chymraeg llafar safonol fel ei gilydd.

Er ei alw’n ‘Feibl William Morgan’, nid gwaith un dyn oedd y cyfieithiad. Mae’r hanes yn dechrau gyda William Salesbury, a lwyddodd erbyn 1567 i drosi’r Testament Newydd a’r Salmau i’r Gymraeg. Cafodd gymorth gan ddau o glerigwyr Esgobaeth Tyddewi, sef yr Esgob ei hun, Richard Davies, a Chantor Tyddewi, Thomas Huet. Ond William Salesbury a fu’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r gwaith cyfieithu arloesol hwn.

Bu saib wedyn am sawl blwyddyn, hyd nes i’r Esgob William Morgan ailgydio yn y gwaith. Ymrôdd i ddiwygio’r cyfieithiad o’r Testament Newydd a’r Salmau yn drwyadl, ac i gyfieithu’r Hen Destament o’r bron. Cyhoeddwyd ffrwyth ei lafur enfawr — argraffiad cyntaf ‘Beibl William Morgan’ — yn 1588.

Ond nid dyna ddiwedd y stori. Diwygiodd William Morgan ei hun rywfaint ar ei gyfieithiad ac yna, rai blynyddoedd wedi’i farw, paratowyd fersiwn diwygiedig o’i gyfieithiad gan yr Esgob Richard Parry a’r Dr John Davies, Mallwyd. Gyda chyhoeddi fersiwn diwygiedig Parry a Davies yn 1620, cyrhaeddwyd penllanw’r gwaith o baratoi ‘Beibl William Morgan’, ac er i nifer yn y ganrif ddiwethaf a’r ganrif hon droi eu llaw at ddiwygio ymhellach rannau ohono neu gyfieithu rhannau o’r Ysgrythur o’r newydd, Beibl 1620 heb fawr ddim newid arno (ac eithrio safoni a diweddaru ei orgraff) fu unig Feibl y Cymry hyd at gyhoeddi’r Beibl Cymraeg Newydd yn 1988.

Roedd dau reswm sylfaenol dros y gwahanol gynigion a gafwyd o bryd i’w gilydd i ddiwygio Beibl 1620 ac i baratoi cyfieithiadau Cymraeg newydd o’r Ysgrythur. Yn gyntaf, er cymaint y gamp sydd ar ‘Feibl William Morgan’ o ran ei arddull, y mae’r Gymraeg wedi newid dros y blynyddoedd, gyda’r canlyniad fod rhannau o Feibl 1620 bellach yn dywyll neu yn gamarweiniol eu hystyr. Yna, er bod ‘Beibl William Morgan’ yn gynnyrch ysgolheictod o’r radd flaenaf, y mae ysgolheictod beiblaidd oddi ar 1620 wedi rhoi goleuni pellach ar destun gwreiddiol yr Ysgrythur a’i ystyr.

Yr un rhesymau a ysgogodd baratoi’r argraffiad diwygiedig hwn o Destament Newydd 1620. Ein bwriad yw cyflwyno’r cyfieithiad Cymraeg clasur?-?ol o’r Testament Newydd mewn gwisg fodern, wedi’i gywiro yn y mannau hynny lle yr oedd ystyr y Gymraeg wedi newid neu wedi tywyllu gormod gyda threigl y canrifoedd, ynghyd â’r mannau hynny lle y cafwyd erbyn hyn oleuni pellach ar ystyr y gwreiddiol.

Gofynnwyd i dîm bychan o bersonau hyddysg yng Ngroeg y Testament Newydd edrych yn fanwl ar gyfieithiad 1620 o safbwynt ei ffyddlondeb i’r testun Groeg yng ngoleuni ysgolheictod diweddar. Wrth wneud hynny, rhaid oedd penderfynu pa destun Groeg i’w ddilyn. Mae cyfoeth mawr o lawysgrifau Groeg o’r Testament Newydd, neu rannau ohono, wedi goroesi o gyfnodau pur gynnar yn hanes yr Eglwys Gristnogol. Gwahaniaetha’r gwahanol gopïau hyn ryw gymaint oddi wrth ei gilydd — er da cofio mai ychydig yw’r darlleniadau amrywiol, a bod y rhan fwyaf yn fanion nad ydynt yn effeithio fawr ddim ar yr ystyr. Wrth gymharu’r llawysgrifau, daw yn amlwg fod y mwyafrif mawr yn perthyn yn agos i’w gilydd, yn rhan o un teulu o lawysgrifau. Llawysgrifau o’r teulu lluosog hwn oedd y rhai a ddefnyddiwyd wrth gyfieithu ‘Beibl William Morgan’.

Oddi ar 1620 daeth llawysgrifau eraill o’r Testament Newydd Groeg i’r golwg. Mae nifer o’r rhain yn hŷn na’r llawysgrifau a oedd ar gael yn 1620, ac yn eu plith ceir rhai na pherthynant i’r teulu y perthyn y mwyafrif mawr o’r llawysgrifau iddo. Mae llawer o ysgolheigion wedi pwyso’n drwm iawn ar y dystiolaeth newydd a chynharach hon. Ond dadleuodd ysgolheigion eraill yr un mor gryf o blaid y testun a ddiogelwyd ym mwyafrif y llawysgrifau.

Yn hytrach nag ymuno yn y ddadl hon, gan mai argraffiad diwygiedig o Destament Newydd 1620 yw hwn, penderfynwyd glynu wrth destun y teulu o lawysgrifau a oedd yn sail i gyfieithiad 1620, ond gan fanteisio ar ffrwyth yr ymchwil diweddaraf i’r testun hwnnw. O ganlyniad, y testun a ddilynir yma yw’r un a geir yn k The Greek New Testament According to the Majority Textk* dan olygyddiaeth Zane A. Hodges ac Arthur L. Farstad, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1982 gan Thomas Nelson Publishers. Lle mae darlleniadau llawysgrifau ‘Testun y Mwyafrif’ yn amrywio oddi wrth ei gilydd, dilynwyd yr un darlleniad â chyfieithwyr Testament Newydd 1620, oni bai fod tystiolaeth mwyafrif y llawysgrifau yn bendant o blaid darlleniad arall.

O ran y Gymraeg, cafwyd cymorth gan dîm bychan, a gynhwysai rai o’n hawdurdodau pennaf ar yr iaith, i ddiwygio cyfieithiad 1620. Fe’i diwygiwyd yn y mannau hynny lle yr oedd ystyr y Gymraeg naill ai wedi newid erbyn heddiw neu wedi mynd yn bur dywyll i’r Cymro llengar cyfoes. Pan fu diwygio, gwnaed hynny mor gydnaws â phosibl ag arddull cyfieithiad 1620. Trwy’r cyfan, argraffiad diwygiedig o Destament Newydd 1620 oedd y nod ac nid cyfieithiad newydd.

Y trydydd cam wrth baratoi argraffiad newydd o Destament 1620 oedd ei gyflwyno mewn diwyg cyfoes. Yn ogystal â diwygio’r cyfieithiad o safbwynt y Gymraeg a’r testun gwreiddiol, trefnwyd ef yn baragraffau, defnyddiwyd penawdau a diwygiwyd yr atalnodi. At hynny, dynodwyd dyfyniadau o’r Hen Destament mewn modd eglur, gan roi’r cyfeiriadau ysgrythurol ar waelod y tudalen.

Trwy’r tair ffordd hon y nod oedd gwneud y trysor mawr hwn o’n treftadaeth ysbrydol a diwylliannol yn fwy cywir a chlir a darllenadwy i’r darllenydd cyfoes. Ceisiwyd gwneud hynny heb golli dim o rin y gwreiddiol, sydd yn amlwg yn parhau i swyno hen ac ifanc fel ei gilydd.

Bu ‘Beibl William Morgan’ yn gaer i’n hiaith, yn ysbrydiaeth i’n llenorion ar hyd yr oesau ac, uwchlaw dim, yn faeth ysbrydol i lu o’n cyd‐Gymry dros y cenedlaethau. Ein gweddi wrth ollwng yr argraffiad newydd hwn o’n dwylo yw, y bydd yn estyn ymhellach ddefnyddioldeb Testament Newydd 1620 ac y caiff ei ddefnyddio’n rymus, fel argraffiad 1620 o’i flaen, er clod i Dduw ac er iechyd ysbrydol i’n cenedl.

 Mawrth 1991


British & Foreign Bible Society

BWMTND ÉDITEUR

En savoir plus

Autres versions par British & Foreign Bible Society