1
Ioan 10:10
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Ni ddaw'r lleidr ond i ladrata ac i ladd ac i ddinistrio. Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a'i gael yn ei holl gyflawnder.
השווה
חקרו Ioan 10:10
2
Ioan 10:11
Myfi yw'r bugail da. Y mae'r bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid.
חקרו Ioan 10:11
3
Ioan 10:27
Y mae fy nefaid i yn gwrando ar fy llais i, ac yr wyf fi'n eu hadnabod, a hwythau'n fy nghanlyn i.
חקרו Ioan 10:27
4
Ioan 10:28
Yr wyf fi'n rhoi bywyd tragwyddol iddynt; nid ânt byth i ddistryw, ac ni chaiff neb eu cipio hwy allan o'm llaw i.
חקרו Ioan 10:28
5
Ioan 10:9
Myfi yw'r drws; os daw rhywun i mewn trwof fi, caiff ei gadw'n ddiogel, caiff fynd i mewn ac allan, a dod o hyd i borfa.
חקרו Ioan 10:9
6
Ioan 10:14
Myfi yw'r bugail da; yr wyf yn adnabod fy nefaid, a'm defaid yn f'adnabod i
חקרו Ioan 10:14
7
Ioan 10:29-30
Hwy yw rhodd fy Nhad i mi, rhodd sy'n fwy na dim oll, ac ni all neb eu cipio allan o law fy Nhad. Myfi a'r Tad, un ydym.”
חקרו Ioan 10:29-30
8
Ioan 10:15
yn union fel y mae'r Tad yn f'adnabod i, a minnau'n adnabod y Tad. Ac yr wyf yn rhoi fy einioes dros y defaid.
חקרו Ioan 10:15
9
Ioan 10:18
Nid yw neb yn ei dwyn oddi arnaf, ond myfi ohonof fy hun sy'n ei rhoi. Y mae gennyf hawl i'w rhoi, ac y mae gennyf hawl i'w derbyn eilwaith. Hyn a gefais yn orchymyn gan fy Nhad.”
חקרו Ioan 10:18
10
Ioan 10:7
Felly dywedodd Iesu eto, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, myfi yw drws y defaid.
חקרו Ioan 10:7
11
Ioan 10:12
Y mae'r gwas cyflog, nad yw'n fugail nac yn berchen y defaid, yn gweld y blaidd yn dod ac yn gadael y defaid ac yn ffoi; ac y mae'r blaidd yn eu hysglyfio ac yn eu gyrru ar chwâl.
חקרו Ioan 10:12
12
Ioan 10:1
“Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, lleidr ac ysbeiliwr yw'r sawl nad yw'n mynd i mewn trwy'r drws i gorlan y defaid, ond sy'n dringo i mewn rywle arall.
חקרו Ioan 10:1
בית
כתבי הקודש
תכניות
קטעי וידאו