1
Genesis 15:6
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004
Credodd Abram yn yr ARGLWYDD, a chyfrifodd yntau hyn yn gyfiawnder iddo.
השווה
חקרו Genesis 15:6
2
Genesis 15:1
Wedi'r pethau hyn, daeth gair yr ARGLWYDD at Abram mewn gweledigaeth, a dweud, “Nac ofna, Abram, myfi yw dy darian; bydd dy wobr yn fawr iawn.”
חקרו Genesis 15:1
3
Genesis 15:5
Aeth ag ef allan a dywedodd, “Edrych tua'r nefoedd, a rhifa'r sêr os gelli.” Yna dywedodd wrtho, “Felly y bydd dy ddisgynyddion.”
חקרו Genesis 15:5
4
Genesis 15:4
Yna daeth gair yr ARGLWYDD ato a dweud, “Nid hwn fydd d'etifedd; o'th gnawd dy hun y daw d'etifedd.”
חקרו Genesis 15:4
5
Genesis 15:13
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Deall di i sicrwydd y bydd dy ddisgynyddion yn ddieithriaid mewn gwlad nad yw'n eiddo iddynt, ac yn gaethweision, ac fe'u cystuddir am bedwar can mlynedd
חקרו Genesis 15:13
6
Genesis 15:2
Ond dywedodd Abram, “O Arglwydd DDUW, beth a roddi i mi, oherwydd rwy'n para'n ddi-blant, ac etifedd fy nhŷ yw Eleasar o Ddamascus?”
חקרו Genesis 15:2
7
Genesis 15:18
Y dydd hwnnw, gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod ag Abram a dweud: “I'th ddisgynyddion di y rhoddaf y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates.”
חקרו Genesis 15:18
8
Genesis 15:16
A dychwelant hwy yma yn y bedwaredd genhedlaeth; oherwydd ni chwblheir hyd hynny ddrygioni'r Amoriaid.”
חקרו Genesis 15:16
בית
כתבי הקודש
תכניות
קטעי וידאו