Salmau 1
1
SALM I
DWY FFORDD A DWY DYNGED.
1O mor hapus yw’r gŵr na rodiodd erioed
Wrth gyngor annuwiolion,
Na sefyll yn ffordd pechaduriaid,
Nac eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr.
2Ond ofn yr Arglwydd yw ei hyfrydwch,
A dydd a nos y mae’n sisial Cyfraith yr Arglwydd.
3Y mae fel pren a drawsblannwyd ar lan afonydd,
Yn brydlon y dyry ei ffrwyth, ac ni wywa ei ddail;
A llwyddiannus a fydd pen draw ei holl waith.
4Nid felly y bydd yr annuwiol, na, nid felly;
Ond fel manus a yrr y gwynt ar chwâl.
5Am hynny ni bydd atgyfodiad i’r annuwiolion yn
Nydd y Farn,
Ac ni ddaw pechaduriaid i Gynulleidfa y Cyfiawn.
6Canys hoffa yr Arglwydd ddull y cyfiawn o fyw,
Ond dinistria ddull bywyd yr annuwiol.
salm i
Salm amddifad yw’r Salm gyntaf; nid oes iddi deitl nac enw awdur, nac unrhyw gyfeiriad hanesyddol i benderfynu ei chyfnod ac amser ei chyfansoddi.
Unwaith safai’n gwbl ar wahân i’r Salmau, fel rhyw fath o ragymadrodd neu brolog. Yn Actau 13:33, yr Ail Salm a ddyfynnir, ond yn ôl y darlleniad gorau fe ddylid darllen, “Megis yr ysgrifennwyd yn y Salm gyntaf”.
Bu’n arfer cynnar gysylltu’r Salm gyntaf a’r ail, a dyma ystyr y frawddeg a geir yn y Talmwd, “ddechrau a diweddu’r Salm gyntaf gyda Gwynfyd”. Ond er eu cysylltu unwaith nid oes gystlwn na pherthynas rhwng y ddwy.
Diau ei chyfansoddi yn ddiweddar ar ôl cwplau casglu’r Salmau, ac efallai ei chyfansoddi yn unswydd gan y golygydd olaf fel rhagymadrodd i’r casgliad.
Gwaith addas iawn oedd ei dodi yma, a chyntedd brydferth ydyw i’r deml geinaf a gododd ysbryd defosiwn dyn erioed.
Nodiadau
1. Y mae triawdau’r adnod yn drawiadol, ac yn enghraifft berffaith o brif nodwedd barddoniaeth Hebraeg.
(a) rhodio | (b) cyngor | (c) annuwiolion |
sefyll | ffordd | pechaduriaid |
eistedd | eisteddfa | gwatwarwyr |
Boed hyn ym meddwl y Salmydd neu beidio, y mae’r disgyn o ris i ris i afael drygioni yn ffaith; o rodio, ymdroir, ac o ymdroi ymdrybaeddu.
Annuwiolion, sy’n euog o bechu yn erbyn Duw a dyn, yn foesol ddrwg.
Pechaduriaid, yr anunion a’r gwyrgeimion sy’n methu â chyrraedd a chadw safonau uniondeb.
Gwatwarwyr, sy’n cellwair yn agored ddisgyblaeth Doethineb, a chrefydd.
2. Rhyw ysgrifennydd delfrydol fel Esra sy’n meddwl yr awdur, un a ddyry ei holl fryd a’i holl amser i fyfyrio Cyfraith yr Arglwydd, sef holl fanylion y Pentateuch. Mewn mannau eraill gall Cyfraith yr Arglwydd olygu Ei holl feddwl datguddiedig Ef. Y mae ‘sisial’ neu ‘fyngial’ yn well na ‘myfyrio’, — y mae iseladrodd er mwyn cofio yn ddull a nodwedda’r myfyriwr dwyreiniol.
3. Darlun wedi ei fenthyg o Jer. 17:8 ac Esec. 47:12.
4. Ym Mhalesteina ar y bryniau yr oedd y lloriau dyrnu, — disgyn y grawn i’r ddaear, ond cipir y manus gan y gwynt.
5. Sonia Iesu yn Luc 14:14 am “Atgyfodiad y rhai cyfiawn”.
Pynciau i’w Trafod:
1. A oes gan y cyfiawn hawl i ddisgwyl y dedwyddwch a’r llwyddiant a briodolir iddo yma?
2. Ym mha fodd y dyry myfyrdod dwys o’r Ysgrythur gadernid cymeriad i ddyn?
3. Cymherwch syniad annelwig y Salm hon am Atgyfodiad â dysgeidiaeth y Testament Newydd.
Trenutno odabrano:
Salmau 1: SLV
Istaknuto
Podijeli
Kopiraj
Želiš li svoje istaknute stihove spremiti na sve svoje uređaje? Prijavi se ili registriraj
Detholiad o'r Salmau gan Lewis Valentine. Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston ym mis Ebrill 1936.