Genesis 16

16
PEN. XVI.
Sarai yn rhoddi Agar ei morwyn i Abram. 4. honno yn beichiogi ac yn diystyru ei meistres. 6. Ac yn ffoi oddi wrth ei meistres rhac ei blined wrthi. 7. Yr angel yn ei chyssuro. 11. Enw, a chynneddfau ei mâb. 13. Ai gwêddi,
1Sarai hefyd gwraig Abram ni phlantase iddo, ac yr ydoedd iddi forwyn o Aiphtes ai henw Agar.
2Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, wele yn awr, yr Arglwydd a luddiodd imi blanta: Dos attolwg at fy llaw forwyn, fe alle y ceir i mi blant o honi hi, ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai.
3Yna y cymmerodd Sarai gwraig Abram ei morwyn Agar yr Aiphtes, ym mhen deng mlhynedd wedi trigo o Abram yn nhir Canaā, a hi ai rhoddes i Abram ei gŵr yn wraig iddo.
4Ac efe a aeth at Agar, a hi a feichiogodd: a phan welodd hithe feichiogi o honi, ei meistres oedd wael yn ei golwg hi.
5Yna y dywedodd Sarai wrth Abram yr ydwyfi yn cael cam gennit ti: mi a roddais fy morwyn i’th fonwes, a hithe a welodd feichiogi o honi, a gwael ydwyf yn ei golwg hi: barned yr Arglwydd rhyngof fi a thi.
6Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai, wele dy forwyn yn dy law di, gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun: yna Sarai ai cystuddiodd hi a hithe a ffoawdd rhacddi hi.
7Ac angel yr Arglwydd ai cafodd hi wrth ffynnon yn ffordd Sur.
8Ac ef a ddywedodd, Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost? ac i ba le yr ei di? a hi a ddywedodd ffoi yr ydwyfi o wyneb fy meistres Sarai.
9Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrthi, dychwel at dy feistres, ac ymddarostwng tann ei dwylo hi.
10Angel yr Arglwydd a ddywedodd hefyd wrthi hi: gan amlhau yr amlhaf dy hâd ti, fel na rifir ef o luosogrwydd.
11Dywedodd hefyd angel yr Arglwydd wrthi hi, wele di yn feichiog, a thi a escori ar fâb, ac a elwi ei enw ef Ismael: canys yr Arglwydd a glybu dy gystudd di.
12Ac efe a fydd ddŷn gwyllt, ai law ar baŵb, a llaw paŵb arno yntef; ac yn trigo ger bron ei holl frodyr.
13A hi a alwodd enw’r Arglwydd yr hwn oedd yn llefaru wrthi, ti ô Dduw wyt yn edrych arnafi: canys dywedodd, oni edrychais ymma hefyd ar ol yr hwn sydd yn edrych arnaf?
14Am hynny y galwyd y ffynnon, #Genes.24.62.ffynnon Laha Roi: wele rhwng Cades a Bared [y mae hi.]
15Ac Agar a ymmddug fâb i Abram: ac Abram a alwodd enw ei fâb, yr hwn a ymddugase Agar, Ismael.
16Ac Abram [oedd] fâb pedwar ugain-mlwydd a chwech o flynyddoedd, pan ymddug Agar Ismael i Abram.

Jelenleg kiválasztva:

Genesis 16: BWMG1588

Kiemelés

Megosztás

Másolás

None

Szeretnéd, hogy a kiemeléseid minden eszközödön megjelenjenek? Regisztrálj vagy jelentkezz be