Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i fewn drwy y drws i gorlan y defaid, ond yn dringo dros y mur, lleidr ac ysbeiliwr yw. Y mae y bugail yn wastad yn myned i fewn drwy y drws. Iddo ef y mae y drysawr yn agoryd, ac y mae y defaid yn gwrandaw àr ei lais ef. Y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henwau, ac yn eu harwain hwynt allan. A gwedi iddo ỳru allan ei ddefaid, y mae efe yn myned o’u blaen hwynt, a hwythau á’i canlynant ef, am eu bod yn adnabod ei lais ef. Y dyeithr nis canlynant, eithr ffoant oddwrtho, am nad adwaenant lais dyeithriaid. Y gyffelybiaeth hon á gyfeiriodd Iesu atynt, ond nid oeddynt hwy yn amgyffred beth yr oedd efe yn ei ddywedyd. Am hyny efe á chwanegodd, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Myfi yw drws y gorlan. Cynnifer oll ag á ddaethant o’m blaen i, lladron ac ysbeilwyr oeddynt; ond y defaid nid ufyddâasant iddynt. Myfi yw y drws: y sawl á ant i fewn trwof fi, á fyddant ddiogel: hwy á ant i fewn ac allan, ac á gant borfa. Nid yw y lleidr yn dyfod ond i ladrata, i ladd, ac i ddystrywio. Myfi á ddaethym fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaeth.