Ioan 1:10-13
Ioan 1:10-13 CJW
Yn y byd yr oedd efe, a’r byd á wnaethwyd drwyddo ef; eto y byd nid adnabu ef. Iddei dir ei hun y daeth, a’i bobl ei hun nis derbyniasant ef; ond i gynnifer ag á’i derbyniasant ef, drwy gredu yn ei enw, y rhoddes efe y fraint o fod yn blant i Dduw; y rhai y mae eu genedigaeth, nid o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gwr, eithr o Dduw.