Ioan 1:29-34

Ioan 1:29-34 CJW

Tranoeth, Ioan á ganfu Iesu yn dyfod ato, ac á ddywedodd, Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn dwyn ymaith bechod y byd. Hwn yw Efe am yr hwn y dywedais i, Ar fy ol i y mae gwr yn dyfod, yr hwn sydd yn rhagori arnaf fi; canys yr oedd efe o’m blaen i. A myfi nid adwaenwn ef; eithr fel yr amlygid ef i Israel, i hyny y daethym i gàn drochi mewn dwfr. Ioan á dystiolaethodd yn mhellach, gàn ddywedyd, Mi á welais yr Ysbryd yn disgyn o’r nef, megys colomen, ac yn aros arno ef. O’m rhan i, nid adnabuaswn i ef, oni bai i’r Hwn à’m hanfonodd i drochi mewn dwfr, ddywedyd wrthyf, Ar yr hwn y gwelych yr Ysbryd yn disgyn ac yn aros, hwnw yw yr un sydd yn trochi yn yr Ysbryd Glan. Wedi i mi, gàn hyny, weled hyn, mi á dystiolaethais mai efe yw Mab Duw.