Ioan 1:1-5
Ioan 1:1-5 CJW
Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. Drwyddo ef y gwnaethwyd pob peth, a hebddo ef ni wnaed cymaint ag un crëadur. Ynddo ef yr oedd bywyd, a’r bywyd oedd oleuni dynion. A’r goleuni oedd yn llewyrchu yn y tywyllwch; ond y tywyllwch nis derbyniodd ef.