Ioan 11:7-16
Ioan 11:7-16 CJW
Gwedi hyny, efe á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Dychwelwn i Iuwdea. Y dysgyblion á atebasant, Rabbi, yn ddiweddar iawn yr oedd yr Iuddewon yn ceisio dy labyddio di, ac á wyt ti am fyned yno drachefn? Iesu á adatebodd, Onid oes deg a dwy awr o’r dydd? Os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda; am ei fod yn gweled goleuni y byd hwn: ond os rhodia efe y nos, efe á dramgwydda; am nad oes oleuni. Gwedi iddo ddywedyd hyn, efe á chwanegodd, Y mae ein cyfaill Lazarus yn huno; ond yr wyf fi yn myned iddei ddihuno ef. Yna y dywedodd ei ddysgyblion ef, Feistr, os huno y mae, efe á adferir. Iesu á ddywedasai am ei farwolaeth ef; ond hwy á dybiasant mai am hun cwsg yr oedd efe yn dywedyd. Yna y dywedodd Iesu wrthynt yn eglur, Y mae Lazarus wedi marw. Ac èr eich mwyn chwi, y mae yn dda genyf nad oeddwn i yno; fel y credoch; ond awn ato ef. Yna Thomas, sef Didymus, á ddywedodd wrth ei gyd‐ddysgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gydag ef.