Ioan 2
2
DOSBARTH II.
Cychwniad y Weinidogaeth.
1-11Yn mhen tridiau, yr oedd priodas yn Nghana Galilea, a mam Iesu oedd yno. Iesu hefyd a’i ddysgyblion á wahoddwyd i’r briodas. Pan ballodd y gwin, mam Iesu á ddywedodd wrtho, Nid oes ganddynt ddim gwin. Iesu á atebodd, Wraig, beth sydd à wnelych â mi? Ni ddaeth fy amser i eto. Ei fam ef á ddywedodd wrth y gwasanaethwyr, Bethbynag á ddywedo efe wrthych, gwnewch. Ac yr oedd yno chwech o ddyfrlestri cèryg, à ddalient ddau neu dri bath bob un, wedi eu gosod yno at y defodau Iuddewig o lanâu. Iesu á ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfrlestri â dwfr. A hwy á’u llanwasant hyd yr ymyl. Yna efe á ddywedodd, Gollyngwch yn awr, a dygwch at arglwydd y wledd. A hwy á wnaethant felly. Pan brofodd arglwydd y wledd y gwin à wnaethid o ddwfr, heb wybod o ba le yr ydoedd, (ond y gwasanaethwyr, y rhai á ollyngasent y dwfr á wyddent,) efe á ddywedodd, gàn gyfarch y priodfab, Pob dyn á esyd y gwin goreu yn gyntaf gèr bron, ac yna un à fo gwaeth, wedi i’r gwesteion yfed yn helaeth; tithau á gedwaist y goreu hyd yr awr hon. Y wyrth gyntaf hon á wnaeth Iesu yn Nghana Galilea, gàn ddadlènu ei ogoniant: a’i ddysgyblion á gredasant ynddo.
12Gwedi hyny efe á aeth i Gapernäum, efe a’i fam, a’i frodyr, a’i ddysgyblion; ond nid arosasant yno nemawr o ddyddiau.
13-17Gàn bod y pasc Iuddewig yn agos, Iesu á aeth i Gaersalem; a gwedi canfod newidwyr arian yn eistedd yn y deml, a rhai yn gwerthu ychain, a defaid, a cholomenod; efe á wnaeth fflangell o reffynau, ac á’u gỳrodd hwynt oll allan o’r deml, gyda ’r defaid a’r ychain, gàn wasgaru arian y newidwyr, a dymchwelyd eu byrddau; ac á ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomenod; Dygwch y rhai hyn oddyma. Na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad. (Yna ei ddysgyblion ef á gofiasant y geiriau hyn o’r ysgrythyr, “Fy aidd dros dy dŷ di á’m hysa i.”)
18-22Am hyny yr Iuddewon á atebasant ac á ddywedassant wrtho, Drwy ba wyrth yr wyt ti yn dangos i ni dy hawl i wneuthur y pethau hyn? Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Dinystriwch y deml hon, a mi á’i cyfodaf hi drachefn mewn tridiau. Yr Iuddewon á adatebasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon; ac á gyfodit ti hi mewn tridiau? (Ond wrth y deml y meddyliai efe ei gorff.) Am hyny pàn gyfododd efe o feirw, ei ddysgyblion ef á gofiasant iddo ddywedyd hyn, a hwy á ddeallasant yr ysgrythyr, a’r gair à ddywedasai Iesu.
23-25Tra yr ydoedd efe yn Nghaersalem, àr wyl y pasc, llawer á gredasant ynddo, pàn welsant y gwyrthiau à wnai efe. Eithr nid ymddiriedodd Iesu ei hun gyda hwynt, am ei fod yn eu hadnabod hwynt oll. Nid oedd raid iddo dderbyn oddwrth ereill nodwedd yr un dyn, oblegid efe á wyddai beth oedd mewn dyn.
Արդեն Ընտրված.
Ioan 2: CJW
Ընդգծել
Կիսվել
Պատճենել
Ցանկանու՞մ եք պահպանել ձեր նշումները ձեր բոլոր սարքերում: Գրանցվեք կամ մուտք գործեք
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.

: