Ioan 5:39-47
Ioan 5:39-47 CJW
Yr ydych yn chwilio yr ysgrythyrau, am eich bod ym meddwl cael, drwyddynt hwy, fywyd tragwyddol. Y mae y rhai hyn hefyd yn dystion drosof fi; èr hyny, ni fynwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd. Nid wyf fi yn chwennych anrhydedd oddwrth ddynion; ond myfi á’ch adwaen chwi, nad oes genych gariad Duw ynoch. Myfi á ddaethym yn enw fy Nhad, a nid ydych yn fy nerbyn i; os arall á ddaw yn ei enw ei hun, hwnw á dderbyniwch. Pa fodd y gallwch chwi gredu, tra yr ydych yn ceisio anrhydedd gàn eich gilydd, yn ddiystyr o’r anrhydedd sydd yn dyfod oddwrth Dduw yn unig? Na thybiwch mai myfi yw yr hwn à’ch cyhudda chwi wrth y Tad. Eich cyhuddwr yw Moses, yn yr hwn yr ydych yn ymddiried. Canys pe credasech chwi Foses, chwi á’m credasech innau; oblegid efe á ysgrifenodd am danaf fi. Ond os na chredwch ei ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch fy ngeiriau i?