Ioan 5:5-9
Ioan 5:5-9 CJW
Ac yr oedd yno ryw ddyn, yr hwn á fuasai glaf drideg ac wyth o flynyddoedd. Iesu, yr hwn á’i gwelai ef yn gorwedd, ac á wyddai ei fod wedi bod yn hir yn glaf, á ddywedodd wrtho, A wyt ti yn ewyllysio cael dy iachâu? Y claf á atebodd, Sỳr, nid oes gènyf neb i’m bwrw i’r badd, pan gynhyrfer y dwfr; ond tra byddwyf fi yn myned, arall á â i lawr o’m blaen i. Iesu á ddywedodd wrtho, Cyfod, cỳmer i fyny dy lwth, a rhodia. Yn ebrwydd y dyn á iachâwyd, ac á gymerodd i fyny ei lwth, ac á rodiodd.