Ioan 6:5-15

Ioan 6:5-15 CJW

Iesu gwedi codi ei olwg, a gweled bod tyrfa fawr yn ymdỳru ato, á ddywedodd wrth Phylip, O ba le y prynwn ni fara i borthi y bobl hyn? (Hyn á ddywedodd efe èr ei brofi ef; canys efe á wyddai ei hun, beth yr oedd efe àr fedr ei wneuthur.) Phylip á atebodd, Ni phrynai dau cann ceiniog ddigon o fara fel y caffai pob un damaid. Un o’i ddysgyblion, Andreas, brawd Simon Pedr, á ddywedodd wrtho, Y mae yma fachgenyn â chanddo bumm torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw hyny rhwng cynnifer? Iesu á ddywedodd, Perwch i’r dynion ledorwedd. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y lle. Felly hwy á ledorweddasant; yn nghylch pumm mil o nifer. Ac Iesu á gymerodd y torthau, a gwedi iddo ddiolch, efe á’u rhànodd i’r rhai à ledorweddasent. Efe á roddes iddynt hefyd o’r pysgod, gymaint ag á fýnasant. A gwedi eu digoni hwynt, efe á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Cesgwlch y briwfwyd gweddil, fel na choller dim. Hwythau, gàn hyny, á gasglasant, ac o’r briwfwyd à weddillasai y bobl, o’r pumm torth haidd, hwy á lanwasant ddeg a dwy fasged. Y dynion hyny, pan welsant y wyrth à wnaethai Iesu, á ddywedasant, Hwn yn ddiau yw y Proffwyd à sydd yn dyfod i’r byd. Yna Iesu, yn gwybod eu bod àr fedr dyfod, a’i gipio ef iddei wneuthur yn frenin, á giliodd drachefn, wrtho ei hunan, i’r mynydd.