Ioan 6:16-21

Ioan 6:16-21 CJW

Yn yr hwyr ei ddysgyblion ef á aethant at y môr, a gwedi llongi o honynt, yr oeddynt yn myned dros y môr i Gapernäum. Yr ydoedd hi weithian yn dywyll; ac Iesu ni ddaethai atynt hwy. A’r môr, gàn wynt tymhestlog, á godwyd. Wedi iddynt rwyfo yn nghylch pump àr ugain neu ddeg àr ugain o ystadiau, hwy á welent Iesu yn rhodio àr y môr, yn agos iawn at y llong, ac á ofnasant. Ond efe á ddywedodd wrthynt, Myfi yw, nac ofnwch. Yna y derbyniasant ef yn llawen i’r llong; ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y lle yr oeddynt yn myned iddo.