Ioan 6:41-51
Ioan 6:41-51 CJW
Yna yr Iuddewon á rwgnachasant yn ei erbyn ef, am iddo ddywedyd, Myfi yw y bara à ddaeth i waered o’r nef; a hwy á ddywedasant, Onid hwn yw Iesu, mab Ioseph, tad a mam yr hwn á adwaenom ni? Pa fodd, gàn hyny, y mae efe yn dywedyd, O’r nef y disgynais? Iesu á atebodd, Peidiwch a grydwst wrth eich gilydd; ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddeithr i’r Tad, yr hwn á’m hanfonodd i, ei dỳnu ef; a myfi á’i hadgyfodaf ef y dydd diweddaf. Y mae yn ysgrifenedig yn y proffwydi, “Hwy oll fyddant wedi eu dysgu gàn Dduw.” Pob un à glywodd ac á ddysgodd gàn y Tad, sydd yn dyfod ataf fi. Nid bod neb, ond yr hwn sydd oddwrth Dduw, gwedi gweled y Tad. Efe yn wir, á welodd y Tad. Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, sy ganddo fywyd tragwyddol. Myfi yw bara y bywyd. Eich tadau chwi á fwytasant y màna yn yr anialwch, ac á fuont feirw. Wele y bara à ddisgynodd o’r nef, fel na byddo marw pwybynag á fwytao o hono. Myfi yw y bara bywiol, yr hwn á ddaeth i waered o’r nef. Pwybynag sydd yn bwyta o’r bara hwn, efe á fydd byw yn dragywydd; a’r bara à roddaf fi, yw fy nghnawd, yr hwn á roddaf fi dros fywyd y byd.