Ioan 6:60-65

Ioan 6:60-65 CJW

Llawer o’i ddysgyblion ef pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw yr athrawiaeth yma, pwy á ddichon ei deall? Iesu yn gwybod ynddo ei hun bod ei ddysgyblion yn grwgnach o’i herwydd, á ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn eich tramgwyddo chwi? Beth pe gwelech chwi Fab y Dyn yn ailesgyn i’r lle yr oedd efe o’r blaen? Yr Ysbryd yw yr hwn sydd yn bywâu; y cnawd nid yw yn llesáu dim. Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, ysbryd ydynt, a bywyd ydynt. Ond y mae o honoch chwi rai nid ydynt yn credu. (Canys Iesu á wyddai o’r dechreuad, pwy oedd y rhai nid oeddynt yn credu, a phwy oedd yr hwn à’i bradychai ef.) Efe a chwanegodd, Am hyny y dywedais wrthych, na ddichon neb ddyfod ataf fi, oni bydd wedi ei roddi iddo gàn fy Nhad.