Ioan 6:66-71
Ioan 6:66-71 CJW
O hyny allan llawer o’i ddysgyblion ef á aethant yn eu hol, a ni rodiasant mwyach gydag ef. Yna y dywedodd Iesu wrth y deuarddeg, A fỳnwch chwithau hefyd fyned ymaith? Simon Pedr á atebodd, Feistr, at bwy yr aem ni? Gènyt ti y mae geiriau bywyd tragwyddol: ac yr ydym ni yn credu ac yn gwybod, mai ti yw Sant Duw. Iesu á’u hatebodd hwynt, Oni ddewisais i chychwi y deuarddeg? èr hyny y mae o honoch un yn ysbiwr. Iuwdas Iscariot, mab Simon, oedd efe yn ei feddwl; canys efe oedd yr hwn oedd àr fedr ei fradychu ef, èr ei fod ef yn un o’r deuarddeg.