Ioan 7:37-44
Ioan 7:37-44 CJW
Ar y dydd diweddaf a mwyaf o’r wyl, Iesu á safodd ac á lefodd, gàn ddywedyd, Od oes àr neb syched, deued ataf fi, ac yfed. Yr hwn sydd yn credu ynof fi, fel y dywed yr ysgrythyr, á fydd fel dyfrgist, o’r hon y dylifa afonydd o ddwfr bywiol. Hyn á ddywedodd efe am yr Ysbryd, yr hwn yr oedd y rhai à gredent ynddo ef iddei dderbyn; canys eto nid oedd yr Ysbryd Glan wedi ei roddi, o herwydd na ogoneddasid Iesu ato. Llawer o’r bobl, wedi clywed yr hyn à lefarid, á ddywedasant, Hwn yn ddiau yw y Proffwyd. Rhai á ddywedasant, Hwn yw y Messia. Ereill, Ai o Alilea y mae y Messia yn dyfod? Oni ddywed yr ysgrythyr, mai o hiliogaeth Dafydd, y bydd y Messia, ac y daw o Fethlehem, y pentref o’r hwn yr oedd Dafydd? Felly yr aeth ymraniad yn mysg y bobl o’i achos ef; a rhai o honynt á fỳnasent ei ddal ef, ond ni osododd neb ddwylaw arno.